Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbrydol. "Crefydd," eb efe, "Crefydd,—byw i'r Bod Mawr,—oedd fy mhwnc i bob amser; ond fyddwn i'n gwneud fawr o stŵr efo hi." Bu ei wasanaeth o werth yn yr eglwysi lle cartrefai, a gelwid ef weithiau i gynnal seiat yn yr eglwysi cymdogaethol. Feallai mai mewn cadw seiat yr oedd ei ragoriaeth pennaf. Yma yr oedd ei hunanfeddiant tawel, ei graffter mewn adnabod dynion, ei deimlad cuddiedig, a chysondeb ei feddylfryd yn y Gair, oll yn wasanaethgar iddo. Daeth gwr i'r seiat i'r Bwlan o garictor go hynod. Aeth Dafydd Morris ato i ymddiddan. Wrth ei weled ef yn sefyll, archodd y gwr iddo eistedd i lawr. Aeth y gweinidog ymlaen, pa fodd bynnag, yn ddigyffro, megys heb glywed yr arch, gan ymgomio yn dawel gyda'r gwr. Yr oedd rhyw gyffyrddiad o'r llugoer yn ei ddull yn achlysurol. Elai at un hen chwaer, a chwynai honno fod yn ddrwg ganddi nas gallai hi ddilyn y moddion yn well, heb ddim anhwyldeb neilltuol arni chwaith, heblaw diffyg gwynt. Sylwai yntau na wyddai efe am un diffyg mwy na hwnnw. "O ba beth y mae pobl yn marw," gofynnai, "ond o ddiffyg anadl?" Byddai'n gartrefol bob amser. Ar un tro, pan ddigwyddodd y seiat fod ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn, fe ddymunai flwyddyn newydd dda i bawb efo'i gilydd yn y lle. Daeth henwr i'r seiat yn 80 mlwydd oed, Griffith Morris wrth ei enw. "Fedrwch i'ch pader?" gofynnai'r gweinidog. "Na fedraf wir, syr." Dreiwchi ddeud o ar fy oli?" Dywedodd y pader bedair gwaith yn olynol, yr hen wr yn ei adrodd ar ei ol bob tro. Ar ol dod i'r seiat y dysgodd yr hen wr hwnnw sillebu. Ar ei wely angeu, ymhen pedair blynedd, fe ddiolchai i Dafydd Morris yn bersonol am mai efe a ddysgodd iddo'i bader. Gallai ddangos tynerwch, pan farnai efe fod eisieu. Gofynnai i henwr syml, ond cywir, "Wel, Robert Thomas, beth sy ganddoch i?" "Dim neilltuol." "Dim heb fod yn neilltuol, onite ?" Edrychiad yr hen wr yn dangos na ddeallai. "Da, was da a ffyddlon, ydi canmoliaeth y Barnwr i'w bobl," ebe'r gweinidog. "Yr wyf yn gweld eich bod chwithau'n ffyddlon." Cododd ysbryd yr hen wr syml gyda'i eiriau. Fe fyddai ganddo ambell i sylw cryno, megys pan gyffelybai fyned i mewn i adnod i dorri tynel mewn gwaith mŵn—bod eisieu dechre yn y pen iawn. Yn ddedwydd yn yr ordinhad o fedydd, ebe Betsan Owen. Ni siaradai lawer. Rhoe'r pennill, "Bugail Israel" allan yn gyffredin, a daliai y plentyn yn ei freichiau wrth weddio. Bedyddio plentyn am ddau prynhawn Sul un tro. Nid oedd y tad yn aelod, ond galwyd ef ymlaen i'r sêt fawr gan y gweinidog. Wedi cael y bychan i'w freichiau, ebe fe, "Fy