Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gododd oddiar ei liniau fel ar naid, gan gyfarch y Nefoedd, a thywallt allan eiriau mawl a gweddi. Yr oedd megys olwyn o dân yn godd- eithio'r lle. Dywedir ddarfod iddo barhau yn yr agwedd honno am awr o amser hyd onid oedd wedi llwyr lesgau o ran ei gorff. Teimlai rhai megys ped agorid y ffenestri, a bod awelon yn chwythu drwy'r lle. Gwelid tri o bersonau mewn un sêt megys yn gwneud gwarr yn erbyn y gwynt a chwythai â'r fath nerth, ac felly y profodd yn eu hanes dilynol, gan iddynt wrthod ymostwng i'r diwedd. Ni weddiodd neb arall yn y cyfarfod y bore. Am weddill ei oes, heb fod yn dymor maith, fe godwyd Henry Prichard i dir uchel o brofiad. Yr oedd mab iddo yn gwasanaethu yn siop John Jones, a dywedai ef fod ei dad wedi treulio y noswaith flaenorol ar ei hyd yn y beudy, mewn gweddi debygid. Erbyn nos Wener, Tachwedd 11, yr oedd Dafydd Morgan yma. Yr oedd hen wraig dros 80 oed ymhlith y dychweledigion. Dywedai y teimlai hi'n ddigalon i feddwl troi at Dduw yn yr oedran hwnnw. Atebai'r diwygiwr drwy ddweyd y gallai ef ei gwisgo hi eto âg ieuenctid tragwyddol. "Fe fyddwch yn chware yn blentyn canmlwydd ar heolydd y Jerusalem newydd mor ieuanc a Gabriel." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 453).

Rhif yr eglwys yn 1854 ydoedd 168; yn 1858, 195; yn 1860, 284; yn 1862, 244; yn 1866, 206; yn 1868, 220. Ymadawodd 60 o'r aelodau oddiyma yn 1866 i ffurfio eglwys Hyfrydle, onite fe welsid cynnydd o 22 yn ystod 1863-6.

Medi 1859, John Griffith, mab y Parch. William Griffith, yn dechre pregethu.

Rhagfyr, 1860, D. Lloyd Jones yn dechre pregethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1863.

Ffurfio cangen-eglwys Baladeulyn yn 1862.

Yn 1862 y gwnawd T. Lloyd Jones yn flaenor.

Yn 1863 y cychwynnwyd cangen-ysgol Tanrallt. Robert Jones Tanrallt yn brif offeryn.

Yn 1863 yr ymadawodd William Griffith oddiyma i Engedi, wedi bod yn y lle er 1859, pryd y daeth yma o Bwllheli. Efe a wnaeth iddo'i hun le cynnes yn nheimlad y frawdoliaeth.

Yn 1865 y daeth Henry Hughes Ty'nyweirglodd yma o Lanllyfni, lle yr oedd eisoes yn flaenor, a dewiswyd ef yma. Yr un modd am Owen Jones a ddaeth yma o Bwllheli.