Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1866 y sefydlwyd cangen-eglwys Hyfrydle, pryd yr ym- adawodd 60 o'r aelodau oddiyma. Rhoes y fam-eglwys £300 i eglwys Hyfrydle ar yr achlysur. Ymadawodd y Parch. William Hughes i Hyfrydle y pryd yma. Daeth ef yma ar achlysur ei briodas â Catherine Hughes, merch William Hughes Ty'nyweirglodd, ar Mawrth 4, 1843, a'r flwyddyn nesaf, ac yntau eisoes yn flaenor, y cymhellwyd ef i bregethu. Bu o wasanaeth yma mewn amgylchiadau dyrus, a danghosai fedr yn y cyfarfodydd eglwysig.

Fe geisir crynhoi yma gofiant y Parch. John Jones Brynrodyn i John Robinson yn y Drysorfa (1869, t. 356, 391). Mab hynaf teulu Glanrafon, Llandwrog uchaf, ydoedd ef. Pan o ddeunaw i ugain oed o fuchedd wyllt, ac yn ben ymladdwr yn yr ardal. Cyn cyrraedd 21 oed fe newidiodd ei fuchedd, ond heb benderfynu eto arddel crefydd. Yn 1828, pan yn 24 oed, yr oedd yn athraw yn yr ysgol Sul. Ym mis Ionawr, 1828, y dechreuodd efe weddio, meddai ef ei hun mewn cyfarfod athrawon yng Ngharmel. Yr oedd William Ifan Rhostryfan, Brynrodyn gynt, yn cynnal cyfarfod athrawon un nos Sul yng Ngharmel, ac yn adrodd y materion dan sylw yng Nghymdeithasfa Llanrwst, sef y dylai athrawon yr ysgol neilltuo cyfran o bob dydd i weddio dros eu dosbarthiadau. Wrth fyned adref oddiyno, aeth John Robinson drwy bangfa o argyhoeddiad, oddiar yr ystyriaeth nad oedd efe ddim yn gweddïo drosto'i hun chwaithach ei ddosbarth. Dyna'r pryd y dechreuodd efe weddio. Mewn Sasiwn yng Nghaernarvon, dan bregeth John Elias ar y geiriau, "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth," yr argyhoeddwyd ef, er bod ohono wedi teimlo yn ddwys yn flaenorol. Aeth i'r seiat nesaf yng Ngharmel dan deimlad. Yr oedd John Jones Talsarn yno y noswaith honno, y tro cyntaf i'r ddau ddod i gyfarfyddiad â'u gilydd. Efe a adroddodd wrth John Jones yr adnod honno, "Heddyw, ar ol cymaint o amser, os gwrandewch ar ei leferydd ef." Ymhen pedair blynedd yr oedd efe yn flaenor yno. Wedi ei wneud yn oruchwyliwr chwarel Dorothea, efe oedd wrth wraidd yr ysgogiad am gapel i Baladeulyn, ac arosodd yno ysbaid. Yn wr hyddysg yn yr Ysgrythyr. O ddawn hylithr ac ysbryd gwresog, ac er yn wresog, yn dangnefeddwr. Yr oedd ganddo ffordd o ddangos anwyldeb at y neb a ddeuai dan gerydd yn yr eglwys, fel ag i beri teimlad o gywilydd ac edifeirwch yn y cyfryw. Gweddiwr cyhoedd- us anghyffredin. Gweddi o'i eiddo y noswaith ar ol marw ei frawd, a'i weddi gyntaf ar ol dod i Fodhyfryd, yn bethau hynod yn nheim-