lad pawb a'i clywodd. Ar ol cystudd, unwaith, fe fynegodd ei brofiad ddarfod iddo gael golygiadau newyddion ar ogoniant yr Arglwydd Iesu, ac y byddai'n well ganddo na dim a welodd ar y ddaear pe cawsai fod yn offeryn i droi un pechadur o gyfeiliorni ei ffordd. Pan gollai gweithiwr yn y chwarel ei amser o achos meddwdod, elai ef ato i ymliw âg ef, gan geisio yn y man dynnu ei feddwl at y Gwaredwr. A'i iechyd yn gwanychu yn amlwg, fe draethodd ei brofiad yn y seiat i'r perwyl fod arno awydd mawr am y nefoedd, ac oni bae am Margaret ei wraig (merch y Parch. Owen Jones Plasgwyn) a'i ddau fachgen bach y dymunasai fod yno cyn y bore. Ymliwiodd ei wraig âg ef, wedi dod ohonynt adref. Ebe yntau wrthi, "Margaret bach, fe fydd gofal yr Arglwydd am danoch wedi i chwi fy ngholli i, yn llenwi pob bwlch." Ni bu yn hir ar y ddaear yn ol hynny. Bu farw yn y flwyddyn 1867.
Tuag 1870 y cychwynnwyd Temlyddiaeth Dda yn yr ardal. Wedi hynny, dan nawdd y gwahanol enwadau, Cymdeithas Ddirwestol Lenyddol. Ymhen blynyddoedd wedyn ail-gychwynnwyd gyda Themlyddiaeth Dda, yr hon sy'n parhau o hyd. Gweithir hefyd gyda'r Gobeithlu.
Yn 1870 y dechreuodd William Williams Cae'rengan bregethu. Efe a aeth oddiyma yn fugail i Riwlas a Chefncanol, sir Drefaldwyn.
Yn 1871 dewiswyd yn flaenoriaid, Elias Jones, David Prichard Tŷ mawr, Owen Thomas Owen. Symudodd David Prichard Bethesda.
Yn 1873 fe agorwyd ystafell yng Nghefncoed, Gloddfa'r Coed, i gadw ysgol Sul i blant bychain tlodion, lle cyferfydd 30 neu ragor. Symudwyd gyda hyn gan Owen Jones Mount-pleasant.
Yn 1874 y symudodd Henry Hughes Ty'nyweirglodd i Frynrodyn, wedi bod yn flaenor yma er 1865. Gofalai am drefn. Siarad yn fyrr ar ryw adnod, fel sail i'w ymadroddion. Fel mewn mannau eraill, fe'i cyfrifid ef yn weddiwr hynod yma hefyd, a mawr hoffid ef fel dyn.
Mae T. Lloyd Jones yn cymharu yr ysgol y pryd hwn â'r hyn ydoedd, dyweder 30 mlynedd cyn hynny. Gwell trefn yn awr, ac ychwaneg o ryw wybodaeth. Yn ol rhai, llai o wybodaeth bynciol. Llai o ddysgu ar yr Hyfforddwr. Mwy o ryw falchder yn peri i rai wrthod cymeryd eu dysgu. Llai o ddifrifwch, llai o hunan-