Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwadiad. Mwy o holi er mwyn cywreinrwydd yn awr, llai o gymhwyso ar y gwirionedd. Diffyg yn awr o ddosbarth i baratoi athrawon.

Yn 1875 y derbyniodd y Parch. John Pryce Davies alwad yma. Ymadawodd i Gaerlleon ymhen ychydig gyda blwyddyn. Rhoes symbyliad gyda chychwyn addoldy newydd. David Prichard Tŷ mawr yn symud oddiyma i Jerusalem, Bethesda, wedi gwasanaethu ei swydd fel blaenor er 1871. William Herbert Jones a wnawd yn flaenor y flwyddyn hon. Symudodd i'r Bala- deulyn, ac oddiyno i Bethel.

Awst 13, 1877, y bu farw Fanny Jones, gweddw John Jones, yn 72 oed. Y mae hanes y modd y syrthiodd hi a'i gwr mewn cariad â'i gilydd wedi ei adrodd yn helaethach nag y gwnaed yn hanes neb pregethwr a fu yng Nghymru, debygir, yng nghofiant ei gwr, a thrachefn yn ei chofiant hithau. Fe ymddengys hefyd ddarfod i'r serch hwnnw fod yn un parhaol. Bu hi yn ymgeledd gymwys i'w gwr ar lawer ystyr. Soniodd yntau lawer am ei "Fanny" yn ei bregethau. Ymddiriedodd ei gwr yn fawr ynddi hi; edmygodd hithau ei gwr yn fawr. Fe ddengys ei llun yn ei chofiant mai nid dynes gyffredin ydoedd hithau. Mae'r llygaid lledlonydd, go fawrion, yn cymeryd llawer o bethau i mewn, pethau y byd hwn cystal a phethau y byd hwnnw. Mae gwaelod y pen, o dan y llygaid, yn llydan iawn, fel gwaelod pyramid, ac yn arwyddo dawn arbennig i drin y byd. Nid yw y llygaid yn cyfeirio tuag i fyny fel eiddo'r gwr, ac nid oes yma dywyniad ysbrydolrwydd uchel o'r fath a welir yn ei wyneb ef. Yr oedd ynddi hi gyfuniad o deimlad crefyddol a chyfrwystra bydol, y naill a'r llall i'r graddau eithaf, cyfuniad y dywedir ei fod yn perthyn i lawer o'r hen Buritaniaid. Yr ydoedd yn hollol gyfaddas i ofalon masnachol, ac yn feistres o fewn ei thŷ, ac yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn holl helynt yr eglwys. Yr oedd ei Hamen gyhoeddus yn fynych ac yn uchel, ac weithiau hi a dorrai allan mewn gorfoledd, megys pan y cododd ei llaw, gan ddangos y fodrwy, dan bregeth Thomas John ar y Cyfamod, ac y gwaeddodd allan fod y cyfamod hwnnw wedi ei dorri, gan ei bod hi y pryd hynny yn weddw, ond fod Cyfamod Gras yn dal o hyd. Y mae gan ei mab, T. Lloyd Jones, gofiant iddi yn y Drysorfa am 1878 (t. 470). Rhoir rhai o'r prif bethau yma. Yr oedd gan ei thad, Thomas Edwards, law yn adeiladiad y capel cyntaf. Ei mam oedd wraig o synwyr cryf a pharod, ac yn meddu