Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar lais swynol. Yr oedd Fanny Jones yn hynod am ei pharch i'r Saboth er yn blentyn. Clywodd ei mab hi yn dweyd lawer gwaith nad oedd yn cofio'r adeg pryd nad oedd ganddi gariad at Iesu Grist. Byddai Ann Parry, yr un a gadwai dŷ capel Llanllyfni, yn cymeryd sylw mawr o Fanny fach, ac yn ei hyfforddi a'i dysgu. Erbyn blwyddyn o amser ar ol priodi, yr ydoedd yn gallu rhyddhau ei gwr yn hollol oddiwrth ofal masnach, yr hyn fu'n achos o lawenydd iddi bob amser. Pan fyddai ei gwr oddicartref, hi a ofalai am y ddyledswydd deuluaidd ei hunan, a dygai ei bechgyn i fyny i gymeryd rhan ynddi. Ymdrechodd ddysgu lliaws o bobl dlodion pa sut i fyw i gyfarfod eu gofynion. Rhoes lawer i deuluoedd tlodion mewn amseroedd celyd heb obaith tâl. Mathew Henry oedd ei phrif lyfr yn nesaf at y Beibl. Rhoes oreu i'w masnach dair blynedd arddeg cyn y diwedd, a threuliai ei hamser lawer mwy mewn darllen ac ymweled â'r cleifion. Yn Llandinam gyda'i mab yr ydoedd pan fu hi farw.

Yn 1877 yr adeiladwyd y capel newydd ar sylfaeni yr hen gapel, ac ar ran o'i furiau. Chwarter canrif y safodd yr hen gapel. Y capel newydd hwn ydoedd y trydydd. Gwnaed ef yn gapel hardd a chyfleus. Eisteddleoedd i 700. Y draul, £3,046. Talwyd o'r ddyled ar flwyddyn yr agoriad, £1,134. Agorwyd ef yn ffurfiol drwy'r Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, Chwefror 11 a 12, 1878. Dywedwyd yn y Cyfarfod Misol fod swm y casgliadau y flwyddyn cynt dros £1,000. Mater seiat bore ddydd Mawrth, "Y perygl of fod yn rhagrithiol gyda chrefydd." Pregethwyd gan y Parchn. Evan Jones a John Griffith Caernarvon, Dr. Hughes a Dr. Thomas Nerpwl.

Mehefin 4, 1880, y bu farw Edward William, yn 81 oed i'r mis, ac yn flaenor er 1846. Brodor o Rostryfan. Pan yn hogyn mewn gwasanaeth ym Mhontnewydd, gwnaeth pregeth Michael Roberts. ym Moriah argraff ddwys arno am y pryd. Dywedai y clywai ei lais hirllaes ef yn ei glustiau ar y ffordd adref bob cam a gerddai, a bod ofn diwedd byd yn llanw ei galon. Gwrandawodd bregeth fawr Ebenezer Morris yng Nghaernarvon yn 1818, a dywedai nad oedd gof ganddo am unrhyw bregeth a chymaint effaith yn ei dilyn. Ymollyngodd yn ol hynny am ryw dair blynedd o amser i rodio yn oferedd ei feddwl. Yn 1826 y daeth efe i ardal Talsarn. Deffrowyd ei feddwl yn fawr gan bregeth Owen Williams Tywyn Meirionydd yng nghapel Llanllyfni, ar y geiriau, "Nid sanctaidd