Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neb fel yr Arglwydd." Ymaelododd yn Nhalsarn ymhen ysbaid, sef ym Mawrth, 1827. Cyson ym mhob moddion yn y capel, yn tai, ac yn ei dŷ ei hun. Yn ddechreuwr canu dros ystod yr ugain mlynedd cyntaf ar ol ymaelodi â'r eglwys. Wedi ei ddewis yn flaenor, mynnai mai'r amcan oedd ei gael i ofalu "am y pedwar carnolion." Cywirdeb a gonestrwydd diffuant oedd ei brif nodwedd. Yr oedd gradd o hynodrwydd arno yn hynny ymhlith dynion cywir eraill. Yr oedd yn ddigon cywir i fod yn ddidderbynwyneb. Go led graff i adnabod dynion. Sylw byrr yn unig yn y seiat. Heb ddawn neilltuol, ond yn ddwys mewn gweddi. Dywed Mrs. Jones Machynlle'h yng Nghofiant Robert Owen mai gwylio'r ddisgybl- aeth ydoedd swydd Edward William. Byddai'n crafu yn o dôst weithiau. "Llai o ryw liwiau o'ch cwmpas, enethod bach." "Y gwragedd yma sydd yn myned i edrych am eich gilydd, peidiwch a thrafod achosion eich cymdogion: heb dderbyn enllib yn erbyn dy gymydog." "A chwithau sy'n masnachu, bydded eich cloriannau yn gywir. Y mae llygaid yr Arglwydd yn gweled, ac yn ffieiddio'r rhai sy'n cymeryd gwobr yn erbyn y gwirion. Peidiwch â chanmol eich nwyddau yn ormodol." Fe fyddai ei thad yn cael difyrrwch wrth wrando, ebe Mrs. Jones, am nad oedd ond un siop a berchenogid gan aelod o'r eglwys, a honno oedd siop ei wraig. 'Wel, Fanny Jones," eb efe, "chwi gawsoch gynghorion da heno.' Do," ebe hithau yn swta, "ond 'doedd dim o'u heisieu arnaf fi, oblegid y mae y tyst yn byw yn fy mynwes fy hun bob amser." (Cofiant R. Owen, t. 21). Fe fyddai Robert Owen Tŷ draw, pa fodd bynnag, yn adrodd, yn anaml hwyrach, am un dywediad o eiddo Edward William mewn seiat unwaith, nad oedd mor gwbl ddifyr gan John Jones ei glywed ychwaith. (Cofiant Edward Williams gan W. Williams [Glyndyfrdwy], 1882).

Yn 1881 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Owen Williams Talarfor, Owen Thomas Owen, David Davies, Owen Hughes Brynafon. Yr oedd Owen Williams yn flaenor yn Efailnewydd cyn dod yma.

Yn 1882 fe ymadawodd 43 o'r aelodau i ymffurfio yn gangen-eglwys yn Nhanrallt. Am dymor bu Tanrallt yn daith â Thalsarn. Rhif yr eglwys yma yn 1881, 318; yn 1883, 284.

Yn 1882 y dechreuodd Owen Morton Jones bregethu.

Hydref 31, 1882, y bu farw Thomas Morris Bodhyfryd. Daeth i'r gymdogaeth yn 1852 o'r Sarn, wedi gwasanaethu fel blaenor yn y