Tŷ mawr, a galwyd ef i'r un swydd yma. Bu dan addysg Ieuan Lleyn yn ieuanc; ar ol hynny yn ysgol Botwnog; ac wedi hynny gyda John Hughes yn Wrexham. Yn gydysgolheigion âg ef yn Wrexham yr oedd Roger Edwards, Thomas Gee a Dafydd Rolant. Bu'r graddau o ysgolheigtod a gyrhaeddodd yn help i'w wneud yn wr o ddylanwad yn ei ddydd a'i gymdogaeth. Yr oedd ei ym- ddanghosiad allanol hefyd yn fanteisiol iddo. Yn dalach braidd na'r cyffredin, yr ydoedd hefyd o gorff trwchus, gyda wyneb llawn, talcen go lydan a llygaid gloewon. Ei ddull yn hynaws a boneddig- aidd. Hynodid ef gan synwyr ymarferol cryf. Yn wr dichlynaidd, ni ymunodd â chrefydd hyd y flwyddyn 1841. Yn union wedyn fe'i gwnawd ef yn flaenor. Nodweddid ef fel blaenor gan farm bwyllog a thynerwch. Cydweithiai â'i gydswyddogion. Yn athrawiaethwr cryf, ac yn wr o wybodaeth gyffredinol, ac yn meddu hefyd ar fuchedd ddilychwin, fe enillodd radd dda yn ei swydd. Cyfrifid ef y cerddor goreu yn ardal Bryncroes yn ei amser. Darllennai y bennod yn gyhoeddus yn gelfyddgar. Adroddir am dano yn darllen y bedwaredd arbymtheg o Ioan gyda'r fath arddeliad nes fod lliaws yn torri allan i wylo.
Rhaid yw dweyd na roed i dwrr
Daear Ĺlan well darllenwr. (Berw)
John Jones Talsarn, pan yn oruchwyliwr yn y Dorothea, a'i cyrchodd ef yno. Wedi bod yno am dymor yn weithiwr, fe'i dyrchafwyd ef i swydd. Gan gadw ei lygaid ar fuddiannau y meistr, fe enillodd yr un pryd serch y dynion. Llafuriodd gyda dynion ieuainc ardal Talsarn. Cododd yma ddosbarth Beiblaidd. Pan ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd llenyddol yn Arfon, bu cryn alw am ei wasanaeth ef fel beirniad. Yn yr adeg hon y datblygwyd ei ddoniau llenyddol yn bennaf. Yng nghwmni Eben Fardd fe wnaeth lawer i alw sylw ieuenctid Arfon at ragoriaeth yr iaith Gymraeg. Yr oedd yr elfen lenyddol a nodweddai chwarelwyr Arfon ar un cyfnod yn ddyledus i ryw fesur i'w symbyliad ef. Mab iddo ef ydoedd M. T. Morris Caernarvon. (Cymru, 1905, Mai).
Bu Richard Owen yma o'r nos Lun hyd y Sul, Gorffennaf 23- 29, 1883. Hon oedd y drydedd wythnos iddo yn yr ardaloedd hyn, ar ol bod ohono yn Llanllyfni a Phenygroes yr wythnosau blaenorol. Yr oedd y llanw yn codi gydag ef o'r naill wythnos i'r llall. Yr oedd y gwahanol enwadau yn dod fwyfwy o dan y dylanwad. Oedfa nos Sul, fe ymddengys, oedd yr hynotaf iddo yma. Rhoed yr