Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/211

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

odfeuon i fyny mewn amryw o'r capelau cylchynol, a chyrchai pawb, yn bregethwyr a gwrandawyr, i Dalsarn. Nid oedd y tywydd yn caniatau cynnal y moddion allan yn yr awyr agored, fel y bwriedid. Y dylanwad yn nerthol ac anorchfygol. Yr effeithiau ar y pregethwyr yn enwedig yn anghyffredin. Ymunodd 20 â'r eglwys yma fel ffrwyth yr ymweliad. Yn ol tystiolaeth Mr. W. Williams, yr oedd nifer o'r rhai hyn yn hen wrandawyr, a buont yn aelodau ffyddlawn, a dywed ddarfod deffro'r eglwys y pryd hwnnw. (Cofiant Richard Owen, t. 155).

Bu Elias Jones farw yn 1883, yn flaenor er 1871. Ffyddlon i'r moddion ganol wythnos, er yn fasnachwr wrth ei alwedigaeth. Nid oedd dim yn rhy fawr nac yn rhy fychan ganddo'i wneud er mwyn yr achos. Ffyddlon a medrus ynglyn â'r ysgol. Arferai ddweyd fod disgyblaeth gref yr oes y magwyd ef ynddi wedi gadael argraff ddofn ar ei gymeriad. Medr neilltuol i ddweyd ar gasgl.

Yr un flwyddyn y bu farw Robert Jones Tanrallt, blaenor er 1843. Galwyd ef yn flaenor yn Nhanrallt, ar agoriad yr eglwys yno yn 1882. (Gweler Tanrallt). Ffyddlon yn y gwaith, ac o gymeriad diwymi. Dywed Mrs. Jones Machynlleth mai cyhoeddi oedd ei waith priodolaf, a'i fod yn mawrhau ei swydd. Gwnawd cais am iddo roi y swydd i fyny. Dywedodd Robert Ellis Ysgoldy wrtho am wneud hynny ar unwaith. "Yr ydych yn achosi ysgafnder," eb efe. "Yr oeddych yn cyhoeddi heddyw, a minnau yn rhoi pennill allan yr un pryd. Y mae eich clyw yn eich gwneud yn anghymwys i gyhoeddi." Dal ei afael yn ei swydd wnae Robert Jones er pob dweyd. Aeth Mrs. Jones i'w weled ef a'i wraig, Ann Morris, yn eu hên ddyddiau. Ar ganol y scwrs, ebe fe, "Fe ddechreuodd Dafydd bregethu yr un fath yn union a'ch tad: yr oedd y dinc nefol honno yn ei lais; ond fe aeth i'r hen ysgolion yna, a'r colegau mawr yna, ac y mae gormod o ddysg wedi ei andwyo fo." Aeth ymlaen yn y man: "Mi fum i yn y nefoedd er pan fuoch i yma o'r blaen. Mi fum yno mor wirioneddol ag y bu Paul yr Apostol yno. Do, fe aethum yno, welwchi, ac O! y lle gogoneddus a welais i!-a'r canu; ac fel yr oeddwn yn myned ymlaen ym- hellach, yr oeddwn yn edrych i gael golwg arno Fo ei hunan, welwchi, a dyma rhyw angel gwyn yn dod ataf, ac yn dweyd wrthyf, 'Ni chewchi ddim aros yma yn awr, rhaid i chwi ddychwelyd i wlad y ddaear am ychydig amser, Robert Jones; ac O! fel y teimlais wrth droi yn ol !" Elai yr hen frawd ymlaen i adrodd ddarfod iddo