weled Robert Jones Rhoslan yno, hên gydnabod ill dau, a chyf— archai Robert Jones Rhoslan ef yn hamddenol, heb y gradd lleiaf o synedigaeth na chyffro yn ei ddull, fel yr arferai Robert Owen Tŷ draw adrodd,—"Wel, Robert Jones!" Efe a welodd Edward William hefyd yn ymyl, sef ei hen gydflaenor. "O!'r siomedigaeth pan ddeffroais yr ochr yma i'r afon!" (Cofiant Robert Owen, t. 18—21).
Yn 1885 y dechreuodd H. E. Griffith bregethu, athraw ar ol hynny yn ysgol baratoawl y Bala, ac wedi hynny, bugail yng Nghroesoswallt.
Yn 1888 y daeth y Parch. W. Williams yma fel bugail o Corris.
Rhagfyr 29, 1888, bu farw T. Lloyd Jones, yn 51 oed, yn flaenor er 1862. Efe oedd trydydd mab ac wythfed plentyn John Jones, allan o ddeuddeg o blant a anwyd iddo ef a Fanny Jones. Gadawodd addysg yr aelwyd ei hôl arno ef. Bu'n gyd-oruchwyliwr chwarel Dorothea â John Robinson yn ystod y blynyddoedd 1858— 67. Yn dyner at y gweithwyr, ni ddanghosodd allu neilltuol yn y ffordd o ddatblygu adnoddau y gwaith. Yna fe ymgymerodd â changen o fasnach rhwng Nerpwl ac Affrica, ond aflwyddiannus y troes yr anturiaeth allan. Ynglyn â'r fasnach hon y dechreuodd deithio mewn amryw wledydd. Ysgrifennodd a darlithiodd ar ei deithiau, yn ddifyrrus yn niffyg gwybodaeth yn y wlad y pryd hwnnw am y lleoedd y sonid am danynt. Danghosai ddeheurwydd fel blaenor ac fel cadeirydd y Cyfarfod Misol. Cymerodd ddyddordeb neilltuol yn hanes Methodistiaeth yn yr ardal, a chyhoeddodd lyfryn ar yr hanes hwnnw. Dug allan ail gyfrol o bregethau ei dad, cyfrol na wnaeth unrhyw farc ar feddwl yr oes. Dywedai Robert Owen Tŷ draw ei fod, yn yr ymdrech i adgynyrchu pregethau ei dad allan o'i gof, fel ag i lenwi allan yr hyn oedd ysgrifenedig ohonynt, wedi ei lithio i ysgrifennu cynnyrch ei feddwl ei hun yn hytrach nag eiddo'i dad mewn lliaws o fannau. Dywedai Robert Owen yn bendant y buasai yn medru nodi allan. y mannau yn y gyfrol nad oeddynt yn eiddo'r tad o gwbl. Teg yw dweyd, pa wedd bynnag, fod y golygydd ei hun yn tystio yn bendant i'r gwrthwyneb yn y rhagymadrodd i'r gyfrol. Fe adewir tystiolaeth Robert Owen i sefyll, am ei bod yn dangos yr argraff wahanol ar feddwl craff a diragfarn wrth ddarllen y pregethau ragor wrth wrando arnynt. Bu'n wr defnyddiol yng ngwahanol gylchoedd yr eglwys, ac ynglyn â'r ysgol Sul, ac agorodd feddyliau