Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ollyngodd ei darw corniog ar y gynulleidfa gynt. Nid hwn oedd yr unig dro y darfu i fab erlidiwr droi yn achleswr crefydd, megys y mae hanes Josiah mab Amon ac eraill yn ol hynny yn dangos.

Yr oedd y garreg grybwylledig ar derfyn tiroedd Ty'nffrwd a Bryntirion, gerllaw y ffordd sydd yn awr yn arwain i gapel Rhostryfan oddiwrth gapel y Wesleyaid, yng nghwrr isaf gorllewin yr ardal. Clywodd Mr. Gwynedd Roberts y Parch. W. Williams Glyndyfrdwy yn dweyd fod y garreg wedi ei hen falurio, a'r darnau yng nghloddiau meusydd Ty'nffrwd.

Nid oedd unrhyw le addoliad y pryd hwn yn yr ardal. Yn y plwyf i gyd nid oedd namyn eglwys Llanwnda ac eglwys Anibynnol Saron, yr olaf ym mhen isaf y plwyf. Fe ddywedir fod oddeutu ugain o'r ardal hon yn aelodau yn eglwys Brynrodyn at ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Cyn sefydlu eglwys Brynrodyn yr oedd Sadrach Griffith Cae cipris ac Elinor ei wraig, a William Griffith Geginfain ac Elinor Morris ei wraig yn aelodau yn Llanllyfni (Meth. Cymru, II. 218, nodiad). Elai y rhai'n ynghydag eraill yn fwy neu lai cyson i wasanaeth y bore yn eglwys Llanwnda.

Yr oedd William Griffith ac Elinor Morris yn byw yng Nghefn y paderau yn 1804-5, lle sydd gerllaw y man y saif y capel arno yn awr. Erbyn hynny, mae'n ddiau eu bod yn aelodau ym Mrynrodyn. Buont ar un adeg yn teithio i Glynnog i wrando pregethu, pellter o wyth milltir neu ragor. Symudasant o Gefn y paderau i Lwyn y gwalch, yn agos i Frynrodyn. Goroesodd William Griffith ei wraig rai blynyddoedd. Yn niwedd ei oes fe drigai yn y Pwrws, rhes o dai bychain a adeiladwyd gan y plwyfolion yng nghwrr isaf gorllewin Rhostryfan. Y Beibl a Gurnall oedd llyfrau y naill a'r llall o'r ddeuddyn hyn.

Mr. Gwynedd Roberts sy'n nodi allan y cymeriadau boreuol hyn. Sonia ef am Elinor Roberts Bodgarad, a gyfrifid yn flaenffrwyth yr Efengyl yn y fro. Teithiodd i Frynrodyn am 30 mlynedd, bum milltir o ffordd rhwng myned a dod, a hynny hyd lwybr garw a llaith, a rhan fawr ohono yn unig iawn. Yr oedd yn wraig dra chrefyddol. Cedwid y ddyledswydd deuluaidd ganddi gyda chysondeb. Elizabeth Evans Hafoty tŷ newydd, hefyd, a wnelai hynny, ac amryw eraill o'r un cyfnod. Ann Williams a ddaeth drwy briodas o'r Trillban, Clynnog, i'r Wernlas ddu. Ei henw a fu yn berarogl am flynyddoedd lawer. Henry Roberts Caehen a