Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hithau oeddynt gyfeillion mynwesol. Ar eu ffordd adref o'r seiat ym Mrynrodyn, elai'r ymddiddan am "y pethau," ac er meithder ac afrwyddineb y ffordd, cyrhaeddent adref i'w teimlad eu hunain. yn ddiatreg. Bu Ann Williams farw yn lled gynnar yn y ganrif ddiweddaf. Ym more'r ganrif gostyngodd Elizabeth Lewis Caerodyn ei gwddf i'r iau yn gynar ar ei hoes, ac a fu yn hynod amlwg mewn duwioldeb. Mary Parry, ail wraig William Roberts Tan y gelynen, yn fuan wedi ei hail briodas a ddechreuodd gael blas ar wrando'r Efengyl, ac a fu ffyddlon hyd angeu. Evan Llwyd, mab Tanybryn, a'i wraig Jane, a fu'n preswylio am ysbaid yn Hafoty penybryn. Pan oedd y rhieni allan un diwrnod, aeth y plant â chanwyll dan y gwely i chwilio am ryw degan chware. Cymerodd y gwely dân, a llosgodd y tŷý a chwbl o'r dodrefn. Diangodd y plant gyda'u bywyd. Wedi hyn, adeiladodd Evan Llwyd dŷ ar y comin a'i ddwylaw ei hun, a gwnaeth ddodrefn iddo â'i ddwylaw ei hun yr un modd. Enw'r tŷ yw Glanygors. Y mae'r tŷ hwn tua hanner milltir i'r dwyrain o gapel Rhosgadfan. Agorwyd llygaid Evan Llwyd wrth wrando ar John Huxley yng Nghaehen ar y noswaith o flaen y Nadolig, 1814. Yr oedd ganddo tua thair milltir i'r seiat ym Mrynrodyn, a theithiodd y ffordd yn lled gyson, yn ol arfer crefyddwyr y dyddiau hynny, am y chwe blynedd oedd yn weddill o'i oes, a bu ei gynydd mewn crefydd yn eglur iawn.

Dywed y Parch. W. Williams Glyndyfrdwy yng Nghofiant Edward Williams, mai William Edward oedd un o'r rhai cyntaf i gau allan y comin. Efe a gododd Cae'mryson yn y dull hwnnw, yn lled agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, canys yno yn lled fuan ar ol ei adeiladu y ganwyd ei ail fab Edward ym mis Mehefin, 1799. Ann Williams, gwraig William Edwards, a ddaeth i broffesu crefydd yn gyntaf o'r ddau. Yn 1800 y bu hynny, ar ol pregeth gan Lewis Morris sir Feirionnydd ym Mrynrodyn, ar y geiriau, "Ti a bwyswyd yn y cloriannau ac a'th gaed yn brin." Toc ar ol y wraig y daeth y gwr. Elai'r ddeuddyn yn gyson i'r moddion i Frynrodyn Sul a gwaith.

Dywedir yng Nghofiant Edward Williams nad oedd unrhyw fath ar ysgol ddyddiol yn ardal Rhostryfan pan oedd efe yn blentyn, sef ym mlynyddoedd cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ma drwy'r ymneillduwyr y dygwyd ysgol felly gyntaf yma. Yr oedd math ar ysgol, pa fodd bynnag, yn cael ei chynnal yn eglwys y llan, bellter ffordd oddiyma. Ffynnai yr hen arferion cyn-