Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Charles. Yn 1816 aeth y Tŷ uchaf yn wag, a chymerwyd ef ar ardreth i amcan yr ysgol. Rhowd pulpud bychan ynddo, a chodwyd y ffenestr yn uwch i fyny. Ceid pregeth yma yn achlysurol. Fe gynelid seiat yma ar dro, ynglyn â'r pregethau y mae'n debyg. Dywed Mr. Gwynedd Roberts y cynelid yr ysgol yn y tŷ uchaf yr un adeg ag y cynelid hi ym Mrynrodyn, ac y cynelid cyfarfod gweddi pan fyddai un ym Mrynrodyn, a thybia mai dyma'r adeg y ceid ambell seiat. Fe gynelid seiat, pa ddelw bynnag, ar brydiau, ar ol pregeth, mewn mannau nad oedd eglwys reolaidd wedi ei sefydlu eto. (Cymharer Cofiant Edward Williams, t. 17-20.) Fe gynelid ysgol hefyd, a dybir ei bod yn un o'r rhai hynaf yn y wlad, yn Bwlch-y-llyn bach, yn ardal Cesarea. Symudodd honno drachefn i'r Dafarn Dyweirch. Ymhen amser ymwahanodd honno drachefn yn ddwy, y naill gyfran yn myned i Caehaidd mawr, a'r gyfran arall i Gae'rodyn bach. Ymunodd y gangen olaf yn y man â'r Tŷ uchaf. Chwalwyd ysgol Caehaidd ymhen blynyddoedd, ac aeth yr aelodau i'r Brynrodyn a Carmel a Rhostryfan. (Canml. Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai, t. 19.)

Y wirf a ddodwyd yn y trwyth, ac a barodd iddo risialu ydoedd Griffith Jones Caehen, a ddaeth yma yn 1809. Yr oedd rhyw gyffyrddiad o'r tywysog arno ef. Dafydd Jones, gwas yng Nghaehen, ac aelod eglwysig yn y Waenfawr, oedd wedi dechre o'i flaen ef. Edrydd Mr. Gwynedd Roberts ddarfod iddo weled ysgrif of eiddo Robert Jones Bryn y gro yn 1868, ac yn ol honno mai Dafydd Jones wrth weled anuwioldeb ieuenctid yr ardal a gyffrowyd yn ei ysbryd i gychwyn, gyda chynorthwy eraill, yr ysgol yn y Muriau. Tybir ddarfod iddo adael yr ardal oddeutu yr adeg y daeth Griffith Jones Caehen yma. Adwaenid ef yn ddiweddarach fel Dafydd Jones Beddgelert, y pregethwr. Yng Nghae'rodyn fe flaenorid gan William Dafydd Cae'rodyn mawr, sef tad David Williams Tanyrallt, a thaid William David Williams, yn awr yn flaenor yn Rhostryfan; Owen Eames Caehaidd mawr; William Edward Cae'rmryson. Bu Owen Roberts Bodgarad yn aelod o'r ysgol hon. Tad ydoedd ef i Mr. Robert Owen Roberts, yn awr yn flaenor yn Rhostryfan, ac i Mr. William Roberts, yn awr yn flaenor yn Engedi, Caernarfon. Pan gynelid yr ysgol yn Penlan uchaf yr oedd Griffith Prichard, gwr y tŷ, yn un o'r rhai blaenaf ynglyn â hi. Tybir mai achos arosiad byrr yr ysgol yn Nhy'n y weirglodd ydoedd symudiad Griffith Jones, gwr y tŷ, i Lanberis. Cofnodir y bu'r Parch.