William Hughes Bryn beddau, ar ol hynny o Saron, Llanwnda, gweinidog gyda'r Anibynwyr, o fawr wasanaeth i'r ardal yng nghyfnod yr ysgolion hyn.
Yr oedd tair milltir o ffordd o ganol yr ardal i Frynrodyn, ar y naill du, ac i Waenfawr, ar y llall. Gyda chynnydd graddol yr ysgol, fe godai'r awydd yn nheimlad pawb am gapel iddynt eu hunain. Yr oedd, er hynny, wahaniaeth barn am y lle. Dadleuai rhai dros y fan y safai'r maen arno, lle traddodid pregethau gynt. Yr oedd rhai eisieu'r pulpud yn union yn y fan honno. Dadleuai rhai o blaid ei gael ar dir Bryntirion, lle gollyngodd John Llwyd ei darw rhuthrog gynt at y gynulleidfa. Dadleuai rhai eraill dros fangre y capel presennol. Gyda'r rhai olaf yma y dadleuai gwraig Bodgarad, am y buasai raid iddi fyned drwy'r afon deirgwaith ar y Sul i dir Bryntirion, am nad oedd pontydd dros yr afon yno y pryd hwnnw. Dadl Bodgarad a'r lleill o'r un ochr a orfu. Dadl arall oedd am faintioli'r capel. Dadleuai rhai dros 30 troedfedd wrth 26, neu 26 wrth 20 o'r tu fewn i'r muriau. Gwelai eraill hynny'n ormod. Yn y Cyfarfod Misol, cynygiodd William Roberts Clynnog dynnu llathen oddiwrth y lled a'r hyd crybwylledig, a hynny a orfu.
Yn 1821 y codwyd y capel. Yr oedd llofft fechan ar un talcen, a grisiau o'r tuallan yn arwain iddi. Rhyw gymaint yn ddiweddarach y rhoddwyd hwy. Wyneb y capel at yr afon Fenai. Dau ddrws a dwy ffenestr yn y wyneb, a dwy ffenestr yn y cefn. Yr oedd tŷ bychan yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Yr oedd un sêt o amgylch ar y llawr, a choed yn waelod iddi. Meinciau ar y gweddill o'r llawr, a'r llawr hwnnw yn bridd. Goleuid canwyllau pan fyddai angen, ac yr oedd dyn wrth ei swydd yn gofalu am hynny, cystal ag am dorri pen y pabwyryn yn awr a phryd arall yn ystod y gwasanaeth, pryd y byddai'r difeddwl yn ei ddilyn â'u llygaid o babwyryn i babwyryn, er blinder i ambell bregethwr go fyw ei deimlad. Cludid y defnyddiau at adeiladu yn rhad gan yr amaethwyr, a thrinid y cerryg toi yn rhad gan y chwarelwyr. Cydweithiodd yr ardalwyr yn gyffredinol, hyd yn oed y rhai pellaf oddiwrth grefydd, gyda chodi'r capel newydd. Enw'r capel ydoedd Horeb.
Yn ol Edward William, fe ddechreuwyd pregethu yn y capel, a chynnal moddion eraill o ras yn niwedd 1821 (t. 27). Dywed ef y