bwriai hi wlithlaw tyner y Sul yr agorwyd y capel. Daeth i fewn iddo gynulleidfa dda cyn yr amser, sef deg y bore. Robert Owen y Rhyl oedd i wasanaethu. Sicrhae Robert Owen fod Michael Roberts yng nghyfarfod yr agoriad. Yn ol Mr. Gwynedd Roberts, nid oedd cofion ond am oedfa'r bore, a gwasanaeth Robert Owen. Tra yr oeddid yn disgwyl am y pregethwr, rhoes Griffith Ellis, mab y Cyrnant, bennill allan i'w ganu, y mawl cyhoeddus cyntaf a fu o fewn y muriau, a thebyg fod Robert Owen yn myned drwy'r daith y Sul hwnnw.
Yr oedd diwygiad Beddgelert drosodd erbyn hynny. Ar ol sefydlu'r eglwys, pa fodd bynnag, fe ymunodd amryw â hi ag oedd wedi dod dan ei ddylanwad. Fe ddywedir mai 12 oedd rhif y brodyr yn unig ar sefydliad yr eglwys. Yr oedd 32 mlynedd wedi myned heibio er adeiladu capel Brynrodyn, ac yr oedd Sadrach a William Griffith, a'r ddwy Elinor eu gwragedd, yn aelodau yn Llanllyfni, fel y gwelwyd, cyn hynny. Gyda phellter ffordd oddiwrth eglwys, nid oedd namyn y rhai mwyaf selog yn ymaelodi.
Mae'r traddodiad yn aros na chafwyd y 12 crybwylledig yn hollol deg. Dodwyd enw John Hughes mab John Hughes Cae hen, a thad Mr. Richard Jones Hughes, i lawr, sef maban y pryd hwnnw. ym mreichiau ei fam, er mwyn cael y rhif cyfrin deuddeg ar sefydliad yr eglwys. Dichon mai mymryn o ddifyrrwch oedd hynny, yn tarddu o asbri yr ysgrifennydd, pwy bynnag ydoedd, a'r lleill yn gwenu ar ei ffansi. Heblaw y deuddeg brawd yr oedd amryw chwiorydd. Mae Mr. John Williams yn rhoi rhestr yr aelodau fel yr ydoedd yn lled fuan ar ol sefydliad yr eglwys. Dyma'r rhestr: Griffith Jones Cae hên, William Ifan Tŷ'r capel, William Dafydd Cae'rodyn, William Edward Cae'mryson ac Ann Williams ei wraig, Griffith Prichard Penlan ac Elsbeth Williams ei wraig, William Jones Terfyn, William Williams Bodaden, William Hughes Tyddyn y berth, Ellis Jones Tryfan bach a Mali Wiliam ei wraig, Thomas Williams Ty'nygadfan, John Hughes Cae hên, John Hughes y maban, Jane Williams, gwraig William Ifan, Mary Roberts Cae hen, Elsbeth Thomas Hafoty, Elinor Roberts Bodgarad, Marged Thomas Gaerwen, Elsbeth Evans Hafod Tŷ newydd, Marged Roberts Coed y brain, oll yn ddibriod, Mary Williams Coed y brain, Elinor Roberts siop Coed y brain, mam William Hughes y siop, Elinor Williams Terfyn, Jane Jones Minffordd, modryb chwaer ei fam i William Edward, Ann Jones Cae'rsais, mam y Dr. Hughes Tan y groeslon, Jane Williams, morwyn yn Bodgarad,