Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Marged Jones (Williams), morwyn yn Tryfan bach, Elinor Jones Caehaidd. Y cyfan yn 30, heb adael allan y maban.

Yr oedd Griffith Jones a William Ifan eisoes yn flaenoriaid ym Mrynrodyn. William Edward oedd y dechreuwr canu cyntaf, yn ol rhai, cyn i Daniel Hughes ymgymeryd â'r swydd. Ellis Jones, y pregethwr cyntaf yma. Y pedwar brawd a enwir yn olaf, gan gynnwys y maban, ni ddaethant yn aelodau, yn ol rhai, am ryw bryd ar ol yr agoriad. Nid yw'n anichon mai deuddeg oedd rhif llawn yr eglwys ar ei chychwyniad, sef wyth brawd a phedair o chwiorydd, os nad oedd y maban yn un o'r nifer yno, nid hwyrach ar fronnau ei fam. Nid yw chwedl y maban, mwy na chwedlau cyntefig eraill, yn meddu ar ddilysrwydd pendant ym marn pawb yn ddieithriad. Dywed John Williams na fynnai W. Williams Glyndyfrdwy dderbyn mo chwedl y maban; ond dywed Mr. Gwynedd Roberts na chlywodd efe erioed mo'r amheuaeth lleiaf yn cael ei daflu ar ei dilysrwydd.

Yr oedd Ellis Jones y pregethwr yn frawd i Owen Jones Plasgwyn Eifionydd. Trwy ymbriodi â Mali Wiliam Tryfan bach, gwraig weddw, y daeth Ellis Jones o'r Plasgwyn i'r gymdogaeth yma yn 1822, neu oddeutu hynny. Pregethwr o ddawn melus odiaeth. Bu farw Rhagfyr 20, 1823, a chladdwyd yn Llandwrog, y Nadolig dilynol, yn 29 mlwydd oed.

Ymadawodd William Ifan i'r Ysgoldy, Llanddeiniolen, yn 1828, gan fyned i weithio i chwarel Dinorwig. Ar gais yr eglwys yr oedd wedi myned i fyw i'r tŷ capel ar agoriad y capel. Bu ei arosiad yma yn gaffaeliad i'r eglwys fechan. Yn ol Robert Jones Brynygro, ebe Mr. Gwynedd Roberts, ar ymadawiad Willami Ifan y dewiswyd Griffith Prichard yn flaenor yn ei le.

Profodd Rhostryfan yn gynnar o ddiwygiad 1830-2. Cyn y diwygiad araf oedd y cynnydd, rhyw un aelod yn y flwyddyn ar gyfartaledd yn ystod y saith mlynedd cyntaf, fe ddywedir. Tua'r flwyddyn 1829, yn ol Edward William, y dechreuwyd profi dylanwad y diwygiad. Nid oedd llawer o gyffro ynglyn âg ef. Ni chlywodd Edward William y fath ganu na chynt na chwedyn. Hugh Williams, y pryd hwn, oedd y prif arweinydd gyda'r canu. Yr adeg yma y daeth Thomas Williams Rhosgadfan a'i wraig Mary Jones yn aelodau; John Hugh, mab Mary Roberts Caehen o'i gwr cyntaf; Ann Owen, gwraig Griffith Wmffre; a Catrin Jones, gwraig Thomas