Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/234

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gelwid John Owen Brynbugeiliaid yn John Owen y Dafarn gan lawer, am ddarfod iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i fywyd priodasol yn y Dafarn dyweirch, sef amaethdy ac nid tafarn, er, debygir, wedi bod yn dafarn unwaith yn yr hen amser. Yr oedd John Owen yn henwr, yn 88 oed ar ei ymadawiad â'r fuchedd hon, ac wedi bod yn briod am dros 60 mlynedd, gan adael ei wraig ar ei ol. Bu yn athraw yn ddifwlch yn yr ysgol Sul am 72 mlynedd. Yr oedd wedi dechre fel athraw yn hen ysgol y Buarthau, Talygarnedd, ger Llanllyfni, ac yr oedd ei dad, Owen Morris, yn flaenor yno. Rhoes y tad hwnnw well addysg na chyffredin y pryd hwnnw i'w blant. Pan ddaeth John Owen i Frynbugeiliaid, bu'n foddion gydag eraill i godi'r ysgol Sul gyntaf yn yr ardal honno. Bu'n dra ffyddlon i'r holl foddion hyd nes y pallodd ei nerth o dair i bedair blynedd cyn y diwedd. Deuai feithder ffordd dros fynydd-dir, ar hyd ffyrdd caregog, ac ar nosweithiau tywyll, yn brydlon i'r moddion bron bob amser. Gwrandawr astud, siriol, a chwithdod ar ei ol gan bregethwyr. Wedi cychwyn ysgoldy Rhosgadfan, elai yno i'r ysgol ac am un bregeth. Yr ydoedd efe erbyn hynny wedi symud o'r Dafarn. Yn ei gystudd diweddaf cwynai am foddion gras, rhag ofn sychu ohono i fyny, chwedl yntau. Dywedai, os credodd efe yn rhywun, ddarfod iddo gredu yn Iesu Grist; os carodd efe rhywun, ddarfod iddo garu Iesu Grist. Dywedai y byddai'n cael ffordd ffres o bobman i'r Cyfamod, ac os oedd ganddo ef rywbeth o gwbl yn eiddo iddo, mai ynghanol y Cyfamod yr oedd hwnnw. Y noswaith o flaen y cynhebrwng, pregethodd Mr. Gwynedd Roberts oddiar y geiriau, "Da, was da a ffyddlon." Un o heddychol ffyddloniaid Israel. (Goleuad, Mai 8, 1875, t. 15.)

Edrydd Mr. Gwynedd Roberts yr hanesyn dyddorol yma am John Owen: "Ymysg eraill y llwyddodd John Owen i'w cael i'r ysgol Sul a moddion gras, yr oedd William Edward, bachgen i gardotes a oedd yn byw yng Nghaerodyn bach rywbryd o 1848 ymlaen. Pan ganfu John Owen ef gyntaf, prin yr oedd ganddo wisg am dano o gwbl, a chyda'r anhawster mwyaf y gallwyd myned hyd ato, gan mor ddioruchwyliaeth ydoedd. Dilladwyd ef, ac wedi dechre dilyn yr ysgol dysgodd lawer, a hynny yn nodedig o gyflym. Oherwydd caredigrwydd amaethwr a oedd yn flaenor gyda'r Anibynwyr, ond mewn rhan oherwydd symud ohono o Gaerodyn bach, aeth William drosodd at yr enwad hwnnw. Yn y man dechreuodd bregethu yn Gosen, ger y Groeslon, os nad ŷm yn