Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/235

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

camgymeryd. Aeth dan addysg Eben Fardd. Yr oedd yn yr ysgol yr un pryd a Dewi Arfon. Wedi hynny aeth i'r Bala. Yr oedd yno rywbryd yn ystod 1864-5. Yn anffodus rhoes wisgoedd llaith am dano, cymerodd anwyd ddibenodd mewn angeu, cyn bod ohono yn y Bala ond prin ddeufis. Yr oedd llawer o hynodrwydd ynddo. Cae gymhariaethau tarawiadol oddiwrth gardota, am yr hyn y gwyddai yn dda. Byrr fu ei dymor, ond rhoes argoelion clir o gymhwysterau i bregethu, ac argraffiadau dyfnion ar ambell i gynulleidfa. Un o blant y Rhos oedd William Edward, ddychwelwyd drwy offerynoliaeth John Owen y Dafarn."

Yn 1876 y codwyd capel Rhosgadfan. Yr un pryd y codwyd tŷ gweinidog, ac ystafell fechan i'r capel, yn Rhostryfan. Rhanwyd yr holl draul rhwng y ddau le, yn ol cyfartaledd rhif yr aelodau. Rhan Rhostryfan yn £1100. Sefydlwyd eglwys yn Rhosgadfan yn 1877, dan ofal Mr. Gwynedd Roberts. Parhaodd y ddau le yn daith. Aeth Robert Jones Brynygro gyda'r gyfran o'r ddeadell a aeth i Rosgadfan.

Ymadawodd Mr. W. Elias Williams i'r Pentir, fel bugail, yn 1877. Rhagfyr 21, 1877, y bu farw William Hughes y Siop, yn 63 oed, ac yn flaenor er 1860. Ganwyd ef flwyddyn brwydr Waterloo, ys dywedai yntau. Bu am bedwar mis yn yr ysgol gydag Eben Fardd. Chwarelwr dan gamp. Efe roes y wers gyntaf mewn cerddoriaeth i Tanymarian, pan ydoedd yn gweithio yn Ffestiniog, a pharhaodd yn gyfaill iddo weddill ei oes. Ymunodd â'r gymdeithas ddirwestol ar ei chychwyniad yma. Dilynodd Ellis Jones fel ysgrifennydd y Gymdeithas Gynorthwyol. Arweinydd y côr cyn i John Thomas ymgymeryd â'r arweiniaeth. Efrydodd reolau barddoniaeth. Un gaeaf traddododd gyfres o ddarlithiau ar gerddoriaeth i Gymdeithas y Bobl Ieuainc, aeaf arall traddododd gyfres ar ramadeg Cymraeg, a gaeaf arall ar seryddiaeth. Meddai ar ddawn ddynwaredol, ac ymollyngai braidd yn ormodol gyda hi. Yr oedd yn feddiannol ar synwyr da, barn go addfed, a phender- fyniad didroi yn ol. Darllennai ei Feibl yn fynych yng nghaban pwyso chwarel Cors y bryniau. Un diwrnod teimlai ei fod yn cael sicrwydd i'w feddwl na ddemnid mono, yn y llewyrch a gaffai ar ryw adnod. Adroddai ei brofiad yn y seiat gydag effaith anarferol. Mab iddo ef yw'r Parch. R. W. Hughes Bangor.

Yn 1877 y dechreuodd John Thomas bregethu, a'r flwyddyn