ddilynol R. W. Hughes. Ymhen rhai blynyddoedd aeth John Thomas allan fel cenhadwr i Khassia, ond o ddiffyg iechyd, ni fu ei dymor yno ond byrr. Yna aeth yn weinidog i'r Aberffraw, Môn. Yn 1877 y gwnawd John Elias Williams Bodawen yn flaenor, a'r flwyddyn ddilynol Griffith Williams Terfyn. Yn 1879 symudodd J. Elias Williams i Nerpwl.
Yn 1879 dewiswyd yn flaenoriaid: William Thomas Ty'nygadfan, Robert O. Roberts Llys Elen, J. Thomas Penyceunant. R. O. Roberts yn ysgrifennydd er 1880.
Owen Jones (Alon) ydoedd un y disgwyliai yr ardal rhywbeth oddiwrtho. Ymroes i ddarllen pan tua phymtheg oed. Medrai gynghaneddu yn o rydd, fe ddywedir, yn y pedwar mesur arhugain. Nid oedd yn hyddysg yn y Saesneg pan aeth i'r ysgol yn Dublin yn ugain oed. Mewn chwe mis fe ddysgodd yr iaith fel ag i fedru gwneud defnydd o'r awduron goreu. O hynny ymlaen gweithiodd gyda dirwest a chymdeithas Blodeu'r Oes. Ar ol blwyddyn yn y gwaith aeth i'r ysgol i Holt. Torrodd i lawr yn ei iechyd, a dysgwyd ef gan ei Dad nefol drwy gystudd, ys dywedai yntau. Wedi meddwl am bregethu yr ydoedd efe, a myned yn genhadwr. Mehefin 18, 1879, yn 27 oed, bu farw. (Goleuad, Gorffennaf 5, 1879, t. 14).
Yn 1880 y dechreuodd Richard Elias Evans Ty'nyweirglodd â phregethu. Gwr ieuanc gwylaidd, o gymeriad prydferth, a'i awydd i bregethu yn gryf Bu farw Mawrth 10, 1887, yn 33 oed.
Yn 1880 yr aeth Owen Parry Owen i Glynnog i'r ysgol, wedi dechre pregethu oddeutu'r amser hwnnw. Wedi gorffen yn y Bala fe ymsefydlodd yn y Bermo, ac ymgymerodd â gofal yr eglwys. Seisnig yno. Brawd ydoedd ef i Robert Owen (Gloddaeth), ag y mae cyfrol goffa iddo yn Nghyfres y Fil, dan olygiaeth Mr. O. M. Edwards. Perchen dawn ac ysbryd gweithio.
Chwefror 12, 1884, bu farw W. E. Thomas Blaen y waen, yn 64 oed, ac yn flaenor er 1860. Bu yn gwasanaethu fel gyrrwr caethion yn yr America yn o ieuanc. Wrth wrando ar y caethion hynny, heb yn wybod iddynt hwy, yn siarad am bethau crefydd, ac wrth eu holi yn ol hynny, yr argyhoeddwyd ef. Colynwyd ef yn ei deimlad wrth ganfod y bobl hynny, gyda'u hanfanteision hwy, yn gwybod gymaint mwy am y Beibl a chrefydd ysbrydol na wyddai ef a oedd wedi cael cymaint mantais mewn addysg grefyddol o'i febyd. Trwythwyd ef gan wres y diwygiad yn yr America, cyn dychwelyd