Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/237

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohono at ei rieni, a oedd erbyn hynny wedi symud o Gaermoel, ger Llanwnda, ac yn byw yn Blaen y waen. Hen lanc golygus, o osodiad boneddigaidd ydoedd efe. Eisteddai yn y sêt fawr yn ymyl Sampson Roberts, dau wr boneddig o ran ymddanghosiad ac ysbryd. Er i'r caethion ei addysgu, ni ymroes efe drosto'i hun mewn ymgais am wybodaeth ddiwinyddol yn ol hynny. Tebyg ei fod o anian go hamddenol, er yr arferai gwyno mai rhai dioglyd oedd y caethion, prun ai crefyddol ynte anghrefyddol fyddent. Er hynny yr oedd efe yn meddu ar naws grefyddol. Galwyd ef yn flaenor yn un peth er mwyn cael un i ofalu am fechgyn y diwygiad o'r Rhos, yng nghloddfa Dinorwig, lle y gweithiai cryn nifer o'r Rhos ar un adeg, a lle cynelid cyfarfodydd gweddi ar ol y diwygiad. Yr oedd ei ddawn ef ei hun mewn gweddi yn nodedig, a pharhaodd tinc y diwygiad ynddo i'r diwedd. Gelwir ef amlaf yn William Evans, ond yn llawn, William Evans Thomas.

Yn 1886 ymadawodd R. W. Hughes am Bontrobert, sir Drefaldwyn.

Yn Hydref, 1888, y daeth Mr. William Jones yma o Glynnog, gan ymgartrefu ym Modaden. Yr oedd efe yn flaenor yno er 1868. Ymadawodd yn 1899 i Glanrhyd, ar sefydliad yr eglwys yno.

Ionawr 20, 1889, y bu farw Griffith Jones Tyddyn heilyn, Caehaidd, yn 79 oed. Un o frodorion Aberdaron. Daeth oddiyno yma pan yn 47 oed. Go wyllt ac anystyriol ym more ei oes. Unwaith o leiaf yr aeth i seler tafarn yn y cyfnod hwnnw, gan dorri twll â wimbled mewn baril o gwrw, a sugno'r cwrw drwy welltyn allan o'r twll. Dyma fel y dywed Mr. Gwynedd Roberts am dano: Adeg ei argyhoeddiad bu dan Sinai am wythnosau, a'r ystorm yn ofnadwy. Yr adeg honno gwrandawodd bregethau gan William Jones Rhyd-ddu, John Jones Talsarn a Chadwaladr Owen. Pan oedd William Jones drosodd o'r America, ac yng Nghyfarfod Misol Llanllechid, yn derbyn yno groesawiad Arfon, ymysg y rhai gododd i lefaru yr oedd Griffith Jones, yr unig dro y clywais i ef yn dweyd gair mewn Cyfarfod Misol. 'Pwy bynnag o honochi sy'n falch o weld Mr. Jones heddyw,' meddai, 'does neb ohonochi yn fwy diolchgar na mi. Y fo ydi tad y mywyd newydd i.' Ac yna aeth dros ei hanes yn gwrando ar William Jones yng nghapel Uwchymynydd, yr effaith roes y bregeth ar ei gydwybod, a'r hyn ddilynodd. Troes William Jones ei lygaid tuag ato gyda gloewder. Tynnodd