sylw astud pawb yn y lle. Daeth deigryn dros erchwyn llygad ambell aelod o'r Cyfarfod Misol, na welswn i argoel deigryn yno erioed o'r blaen. Munyd effeithiol iawn oedd hwnnw. Oedfa i Gadwaladr Owen, pa fodd bynnag, ddanghosodd i Griffith Jones y ffordd i'r hafan, ac i fwynhau tangnefedd gras ym mlâs maddeuant." Yr ydoedd yn flaenor erbyn bod yn 29 oed. Ystôr o wybodaeth yn ei gof am Fethodistiaeth Lleyn. Pan gymerai gyhoeddiad gan bregethwr, dodai lythrennau ei enw ef ar ddull argraff ar ei lyfr, am nad allai ysgrifennu yn amgenach, a byddai weithiau ymhen rhyw encyd o amser mewn gryn benbleth ynghylch pwy a olygid wrth y llythrennau hynny. Meddai ddawn siarad naturiol a llithrig, a byddai yn gweu ei faterion ynghyd mor esmwyth a gwennol gwehydd. Iaith werinol ydoedd yr eiddo ef. Dylifai ymadroddion ysgrythyrol oddiwrtho yn ddibaid, ac yn glo hefyd ar bob pen. Cyn tymor y fugeiliaeth elai o amgylch y seiat at yr aelodau. Gofynnai i hen ac ieuainc, "A fyddwchi yn darllen y Beibl?" "A fyddwchi yn gweddio?" "A fyddwchi yn gwneud ymdrech i ddod i foddion gras?" Pwysai hefyd. ar fyfyrio yn y gair. Dywedodd yn y seiat unwaith am adnod fuasai'n dygyfor yn ei feddwl pan gyda'r gert ar ei ffordd adref o Gaernarvon, "Mi gês i gystal nefoedd ar ben y drol y diwrnod. hwnnw ag y dymunwn i gael byth." Difwlch gyda'r ddyledswydd deuluaidd ydoedd efe.
Gorffennaf 1892 y bu farw William Thomas yn 68 oed, ac yn flaenor er 1879. Yn 1860 y daeth efe at grefydd, wedi esgeuluso ers blynyddoedd. Ynglyn â chaniadaeth y rhagorodd efe fwyaf yn ei wasanaeth i'r eglwys, heb fod yn gantor ei hun. Hen lanc gofalus am ei ymddanghosiad, ac yn ymddangos mor dwt a phin mewn pincws. Derbyniodd y Traethodydd o'r cychwyn, ac yr oedd yn ei ddarllen yn gyson. Ymlyngar wrth y Cyfundeb. Pob gair a ddywedai Ieuan Gwyllt yn ddeddf iddo. Y noswaith y bu farw, holai Mr. Gwynedd Roberts yn floesg, "Glywsochi oddiwrth y Doctor a ydi o yn dod ?" ar ol yr ymohebu ar yr awr olaf am bregethwr i Gyfarfod Rhosgadfan dranoeth.
Yn 1893 dewiswyd William David Williams Tanrallt yn flaenor.
Ionawr 1, 1894, rhoes y Parch. T. Gwynedd Roberts ei ofalaeth i fyny, a symudodd i Gaernarvon, gan ymaelodi ym Moriah, wedi