bugeilio'r eglwys am gyfnod o chwarter canrif. Cyflwynwyd iddo dysteb o dros £100 ar yr amgylchiad. Rhif yr eglwys yn 1868, 264. Y rhif yn 1876, cyn sefydlu Rhosgadfan, 316. Y rhif yn 1877, yn ol hynny, 264; rhif Rhosgadfan, 78. Rhif Rhostryfan yn 1893, 264; rhif Rhosgadfan, 103.
Rhagfyr 15, 1896, bu farw John Thomas Penyceunant, yn 70 oed, ac yn flaenor er 1879. Elfen gerddorol ynddo er yn blentyn. Un o ddisgyblion Robert Owen. Efe a Griffith Davies, y cyfrifydd ar ol hynny, oedd y ddau blaenaf ymhlith y plant yng nghyfarfodydd Robert Owen, ebe William Williams Glyndyfrdwy yng Nghofiant Robert Owen. Ymroes i gerddoriaeth, i lenyddiaeth, i achos. addysg, ac i achos dirwest. Yr ydoedd, ebe Mr. Gwynedd Roberts, yn "ysbryd, llygad a llaw" i bwyllgor addysg a phwyllgor y cylchwyl llenyddol, cystal a phwyllgorau eraill. Hyd 1870, eglwys Horeb a ofalai yn llwyr am addysg gyffredin yr holl fro. Bu'n athraw am 50 mlynedd, yn arweinydd canu am 40 mlynedd, yn arweinydd y côr am 30 mlynedd. Tyb rhai ydoedd y rhagorai fwyaf fel athraw. Ystyrrid ef yn un o'r athrawon goreu o fewn cylch y cyfarfod ysgolion. Yn fedrus fel dechreuwr canu, ac yn ymroddgar i ganiadaeth. Ebe Mr. Gwynedd Roberts am dano: "Prin y ceid neb ddeallai bennill yn gynt, o ran ei ysbryd a'i feddwl, na neb ddetholai yn gynt y dôn fwyaf cyfaddas i bennill. Ni pharai glywed ei lais yn yr uchelder, ac nid amcanai ddangos athrylith drwy ysgogiadau, ac eto bu yn un o'r arweinyddion canu mwyaf llwyddiannus yn y wlad." Rhagorodd yn fwy, feallai, yn y cylchoedd nodwyd nag fel blaenor yn neilltuol.
Yn 1896 rhoddwyd galwad i'r Parch. William Williams, a ddaeth yma o Ddinas Mawddwy.
Chwefror 11, 1897, y bu farw Griffith Williams y Terfyn, yn 70 oed, ac yn flaenor er 1877. Ei fam Elin Griffith yn nodedig am ei chrefyddolder, a'i phrofiadau uchel, hwyliog. Torrai hi allan mewn gorfoledd yn fynych cyn amser diwygiad 1859, ac adroddai ei phrofiad gyda theimlad, gydag acen argyhoeddiad, a chydag oslef nefolaidd. Yn ei hieuenctid buasai yn forwyn gyda Sion Griffith Brynrodyn, ac yr oedd ol hen aelwyd Sion arni o hyd. Tyfodd ei mab, Griffith Williams, i fyny yn grefyddol o'i febyd. Yn ol syniad Mr. John Williams am dano, meddai ar enaid morwynol, ac ymddanghosai fel heb fod yn agored i demtasiynau dynion