Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Hugh Evans, canys mawr ymhoffai mewn canu a dawnsio a'r cyffelyb. Ymdyrrai lliaws o'i gymdogion ato ar ddechreunos, a chwareuai yntau iddynt ar ei ffidil fel pen-campwr. Ar un noswaith pan oedd pregeth yn y Berthddu bach, cartref Dafydd Prisiart Dafydd, penderfynodd y cwmni llawen roi heibio'u difyrrwch, a myned i wrando'r bregeth, ar awgrym Hugh Evans, gyn debyced a dim. Glynodd y saethau mewn calonnau y noswaith honno, ac yng nghalon Hugh Evans ymhlith eraill. Aeth adref o'r bregeth ar ei union, a dywedodd wrth y wraig, "Mi dorraf y ffidil yn ddarnau mân." "Na, gresyn," ebe hi, peidiwch â'i dryllio, fe fydd yn dda gan Wil Ifan ei chael." Nage," ebe yntau, "ni wna ond y drwg iddo yntau." Yna fe ymaflodd yn y ffidil, ac a ddechreuodd ei churo yn erbyn hen gist ystyfflog yn ymyl, onid oedd yn chwilfriw mân ar hyd y llawr. Ymhlith y gwrandawyr yr oedd hen ymladdwr ceiliogod, a bygythiai hwnnw ar ei ffordd adref y torrai ben ei geiliog, ac megys y bygythiodd felly y gwnaeth efe.

Cynelid cyfarfodydd eglwysig yn y Berthddu bach. Aflonyddid ar heddwch y crefyddwyr yn fynych wrth fyned a dod i'r cyfarfodydd hyn. Cyn hir ar ol adeiladu'r Berthddu bach, fe agorwyd drws Ty'nlon i dderbyn pregethu, gerllaw y man y saif y Capel Uchaf yn awr.

Yn nhymor cynnal moddion yn y ddau dŷ hyn, fe dorrodd diwygiad allan, yn enwedig ymhlith y plant. Moliannai'r plant ar hyd y ffordd tua chartref fel y deuent allan o'r moddion. Yr oedd Hugh Griffith Hughes, a drowyd allan o'i dŷ am achlesu pregethu, yn byw bellach yn Nhy'nycoed. Prynodd. y Brysgyni-isaf. Gwerthodd ddernyn o dir, 434 llath wrth 234 llath, am bum swllt, i adeiladu capel arno, sef rhan o gae a elwid Pantyllechi. Dyma'r adroddiad fel y mae yn yr hen weithred. Amseriad y weithred yw 1764, y 5 o Fawrth, yn y bedwaredd flwyddyn o'r brenin Sior III. Ym Methodistiaeth Cymru y mae gwahanol amseriadau yn cael eu rhoi i'r capel cyntaf yng Nghlynnog, sef 1750, 1752 a 1760 (II. 143, 161, 165; III. 550). Ar garreg yn. y capel presennol fe nodir amseriad y gwahanol gapelau, a rhoir amseriad y cyntaf fel 1761. Nid anfynych y gwneir gweithred am dir yn ddiweddarach na'r adeilad arno, neu tra bydd yr adeiladu yn myned ymlaen. Eithr pan ddigwydd yr olaf, fe nodir hynny yn