y weithred yn fynych, os nad bob amser. Yn yr amgylchiad hwn, pa fodd bynnag, fe leferir yn y weithred am yr adeilad fel peth mewn golwg yn unig: "Gan fod amrywiol bersonnau hynawsaidd yn foddlon ac yn awyddus i gyfrannu tuag at adeiladu tŷ cwrdd i Brotestaniaid ymneilltuol ym mhlwyf Clynnog, etc." Tebyg ddarfod i'r capel gael ei godi o fewn y flwyddyn y tynnwyd y weithred allan, a diau ei fod y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn Arfon, p'run bynnag a ydoedd y cyntaf yn y sir ai peidio, megys y dywed Robert Jones Rhoslan. Mawrglod i Hugh Griffith Hughes, neu Hugh Griffiths, fel y gelwir ef yn y weithred, am gyflwyno llecyn mor helaeth o dir yn rhodd, fel y dywedir yn y Methodistiaeth, canys dyna ydoedd yn ymarferol, os nad yn hollol, er gwaethaf pum swllt y weithred. Ac nid pobl anheilwng o'u coffa yn ddiau oedd yr ymddiriedolwyr, pe baem ond wedi eu hadnabod, sef oeddynt y rhai'n: Morris Mark Brynaerau isaf, amaethwr; Griffith Roberts Pentre Clynnog, teiliwr; John Jones plwyf Llaniestyn, amaethwr; Robert Owen plwyf Llanaelhaiarn.
Yn 1744 y dywedir gan y Methodistiaeth ddarfod adeiladu'r capel cyntaf gan y Methodistiaid, a hynny oedd yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin; ond capel y Groeswen yn Sir Forgannwg oedd. y cyntaf ebe Robert Jones, oddeutu 1738 (Gwaith, 1898, t. 104.) Ond rhy gynnar braidd ydyw Robert Jones.
"Tŷ Newydd" oedd yr enw ar gapel cyntaf Clynnog. Yn ddiweddarach, ar hen restr tanysgrifiadau mewn cysylltiad â'r rhyfel ar y cyfandir, fe ymddengys enw Robert Roberts Capel" i lawr am bum swllt. Pan godwyd capel Brynaerau, fe ddaeth y "Capel" i ddwyn yr enw "Capel Uchaf."
Y gwyr yn bennaf a aeth dan y baich o adeiladu oedd Hugh Griffith, sef y sawl a roes y tir, Morris Marc, Robert William Tanyrallt, Robert Prys Felin faesog. Cychwynnodd Robert Sion Ifan ohono'i hun i dirio am gerryg, a bu wrthi am dair wythnos mewn chwarel gerllaw ar ei ben ei hun cyn cael help gan neb. Owen Hughes a roes fenthyg ei gar-llusg a'i ferlyn i gludo'r cerryg, a geneth fach iddo, ddeg oed, a dywysai'r merlyn. Daeth yr eneth honno ar ol hynny yn wraig hynod am ei gras, a bu'n aelod am 77 mlynedd erbyn huno ohoni yn yr Arglwydd.