Yr oedd adeiladwaith y capel yn un go hynod. Gwnawd ef fel ag i gynnwys tŷ capel o fewn ei furiau, ac ar ben y tŷ, o fewn y capel, yr oedd llofft. Elai grisiau, yn ymestyn o'r naill bared i'r llall, i fyny'r i llofft, ac eisteddid ar y grisiau hynny. Yr oedd wyneb y capel at y ffordd, ac ar y wyneb yr oedd y pulpud, a'r tŷ ar y chwith i'r pregethwr. Yr oedd darn croes ar gefn y capel gydag eisteddleoedd ynddo, a dôr yn myned allan ohono. Ceid un res o eisteddleoedd ar y dde i'r pregethwr ar hyd y pared nes dod at y darn croes. O gongl y clwt glas tucefn i'r capel elai llwybr hyd at y ddôr yn y darn croes.
Wedi gorffen adeiladu, aeth dau gyda'i gilydd i gasglu at yr adeilad. Galwyd gydag Ellis Hughes Plasnewydd, gerllaw Glynllifon, amaethwr cyfrifol, ac eglwyswr tyn ei olygiadau. Byth- eiriai Ellis Hughes ei achwynion yn eu herbyn: cyhuddai hwy o fod yn dwyllwyr, o ddibrisio hen sefydliadau eu gwlad, o lwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio. Buwyd yno gydag ef o hanner dydd hyd ddechreunos, a phrofodd ei gyfarthiad yn waeth na'i frathiad, canys fe estynnodd gini iddynt cyn eu bod wedi ymadael.
Torrodd diwygiad allan rywbryd ar ol agor y capel. Fe ddywedir yn hanes Methodistiaeth nad oes dim o hanes y diwygiad hwn ond ei fod. Mae'r un llyfr, pa fodd bynnag, wrth son am y diwygiad ymhlith y plant a dorrodd allan yn nhymor y ddau dŷ, yn adrodd hanesyn i'r perwyl ddarfod i ficer y plwyf, olynydd Nanney, sef Richard Ellis ei fab ynghyfraith, wrth ddychwelyd ar gefn ei geffyl o'r gwasanaeth, gan gyfeirio tuag adref, sef plas y Gwynfryn, ddod ar draws y plant yn gorfoleddu, a dechre eu chwipio mewn nwydau cyffrous, a'u gorchymyn i dewi. Ar hynny daeth Robert Prys allan o'i dŷ, sef y gwr a amddiffynnodd Lewis Evans Llanllugan rhag y gwr bonheddig, ac a ymaflodd ym mhen y ceffyl, gan gyfarch y ficer, "Dyma'r ffordd i'r Gwynfryn, syr," ac ebe fe ymhellach, "Pe tawai y rhai hyn, fe lefarai y cerryg yn y fan!" Ac amserir y digwyddiad oddeutu'r flwyddyn 1759. Fe gofir, pa ddelw bynnag, mai yn 1768 y bu Nanney farw. Yr oedd Richard Ellis, mae'n wir, wedi ymgymeryd â'r ficeriaeth cyn hynny, sef yn 1765 (Cyff Beuno, t. 98). Fe ymddengys ynte y perthyn y digwyddiad i'r diwygiad a dorrodd allan ymhen amser ar ol myned i'r capel.