Torrodd diwygiad arall allan tua'r flwyddyn 1779. Dechreuodd hwn mewn cyfarfod gweddi a gynhaliwyd ar aelwyd y tŷ capel, pan y profwyd rhyw ddylanwad anarferol yn y lle. Y Sul dilynol yr oedd Richard Dafydd o Leyn yno yn pregethu. Gwr o gynneddf fechan oedd Richard Dafydd, eithr fe'i coronwyd y tro hwn â nerth o'r uchelder. Gwaeddai lliaws allan am eu bywyd. Daeth pymtheg ymlaen o'r newydd yn y cyfarfod eglwysig cyntaf ar ol hynny, a pharhaodd lliaws i ddod am ryw dymor. Rhowd yr enw Rowland o Glynnog mewn rhyw barthau i Richard Dafydd ar ol yr oedfa honno, mewn cyfeiriad at Daniel Rowland Llangeitho. Cyffroai'r pethau hyn feddwl Richard Ellis, y ficer, a dyma ef i mewn i'r capel ar ryw Sul gyda'i chwip yn ei law, gan waeddi allan, "Beth yw'r swn drwg sydd yma o bryd i bryd ?" Ymaflodd yn y pen meinaf i'r chwip, a gwnelai ei ffordd tuag at y pregethwr. Ond dyna William Parry y Mynachdy yn ymaflyd yn y gwr mawr, ac yn rhoi ar ddeall iddo na chyffyrddai â'r pregethwr ond ar ei berygl, yr hyn a'i llonyddodd ef.
Fe ddechreuwyd cynnal ysgol nos yn yr ardaloedd hyn flynyddoedd cyn i'r Ysgol Sul gychwyn. Nid oes nemor ddim hanes am dani bellach. Fe ddywedir mai Charles o'r Bala a roes yr ysgogiad cyntaf iddi, drwy gymell y crefyddwyr i fyned i dai y bobl i'w dysgu i ddarllen. A chymhellid yntau i roddi'r cyngor wrth glywed yr hyn a ddywedid wrtho, mewn atebiad i'w ofynion, sef na fedrai lliaws o'r bobl ddeall ei bregethau yn dda. (Canmlwyddiant Ysgolion Sabothol Clynnog ac Uwchgwyrfai, 1885, t. 16. E fu Charles mewn Cyfarfod Misol yng Nghlynnog mor fore a 1778. (Thomas Charles, gan D. Jenkins, I. 85-6). Fe fernir fod y rhai a ddeuai i'r ysgol nos y pryd hwnnw y rhan amlaf yn dra diffygiol mewn gwybodaeth ysgrythyrol a chyffredin.
Yn niwedd 1787 y dechreuodd Robert Roberts bregethu ; ac am rai blynyddoedd yn ddilynol i hynny, bu yn cadw ysgol ddyddiol Gymraeg yn ardaloedd Eifionydd. Ar gais y Cyfarfod Misol fe roes yr ysgol i fyny er mwyn ymroi yn llwyr i bregethu, ac anogwyd ef i fyned i drigiannu i dŷ capel Clynnog, yr hyn a wnaeth. Dywed y Parch. J. Jones Brynrodyn mai Capel Uchaf oedd yr eglwys fwyaf a chyfoethocaf yn Arfon ar y pryd; ac mai trefniant oedd i fod yr eglwys gyflenwi'r tŷ capel â phob angenrheidiau, a bod Robert Roberts i wasanaethu yr eglwysi cylchynol,