ac mai dyma ddechreuad y fugeiliaeth eglwysig yn Arfon. (Drysorfa, 1890, t. 101). Ac yma y bu Robert Roberts byw am weddill ei oes, sef hyd y flwyddyn 1802, y rhan fwyaf o'i yrfa fel pregethwr. Rhydd John Jones enghraifft ohono fel bugail. Ar ei waith yn dod i mewn i'r tŷ un tro, ar ol bod am daith yn y Deheudir, dywedai ei w aig Elin wrtho fod Elin Marc Tan-y-garreg, gwraig grefyddol iawn, yn ymyl marw. Aeth yntau yno yn y fan, heb dynnu ei gôb uchaf oddiam dano. Wedi cyrraedd ohono, aeth ar ei liniau, a gweddiodd, gan gyfeirio at yr iachawdwriaeth fel cerbyd o goed Libanus, ei lawr o aur a'i lenni o borffor, ac wedi ei balmantu oddi- mewn â chariad i ferched Jerusalem. Dyma un o ferched Jeru- salem yn cychwyn i'w thaith. O Arglwydd! cyfod hi i mewn i'r cerbyd."
Yn 1793, mewn ysgol nos, y torrodd allan y diwygiad mwyaf nerthol a brofodd yr ardal hon erioed, er mai diwygiad lleol ydoedd. Yr oedd yr ysgol nos y pryd hynny i fesur pell ar ddelw yr ysgol Sul. Ar ddiwedd un o'r cyfarfodydd hyn, ac ar ol i rywun weddïo, fe roddwyd y pennill hwnnw allan i'w ganu, "Fel fflamau angerddol o dân." Methu gan y rhai a arferai godi mesur y tro hwn, y naill ar ol y llall, ac yna y codwyd mesur ar y pennill gan un o'r bobl ieuainc, a dechreuwyd canu gyda blas. Dyblwyd a threblwyd, a chydiai y geiriau, "Ymaflodd mewn dyn ar y llawr," ym mhob teimlad. Yn y man, dyna rywun yn torri allan i lefain, ac wele'r cyffro hwnnw yn cerdded y lle i gyd. Wrth glywed y swn, fe ddechreuodd y cymdogion ddod i mewn i'r capel, canys yno y cynhelid yr ysgol, a disgynnai yr unrhyw ysbryd arnynt hwythau. Cludwyd hanes y newydd-beth ymhellach, a dyma hen wr gyda'i ffon i mewn i'r capel at hanner nos bellach, a dechreuodd foliannu a'i holl egni, er na wybuwyd fod dim neilltuol gyda chrefydd ar ei feddwl ef o'r blaen. Cynyddu yr oedd y braw a'r cyffro yn y capel, a buwyd yno am ysbaid o amser ymhellach. Fe ddaeth pedwar ugain o'r newydd i'r eglwys gyda'r diwygiad hwn, ac arosodd yn draddodiad yn yr ardal mai ychydig o'r dychweledigion a drodd yn ol. Fe ddywedir ymhellach mai at yr holwyddori yn niwedd yr ysgol y deuai y rhan fwyaf o'r ysgolheigion i mewn cyn y diwygiad hwnnw, ond ar ei ol fe ddechreuwyd dod yn brydlon gan bawb yn gyffredinol. Yr oedd effaith y diwygiad hwn yn fwy na'r oll a wnawd yn yr ardal gyda chrefydd, yn ystod y deugain mlynedd blaenorol, o ran dylanwad amlwg o leiaf.