Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/247

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adrodd wrtho. Rhaid oedd goddef symud o un dosbarth i'r llall, hefyd, yn gwbl wrth ei benodiad ef, ac os grwgnechid, fe gae'r grwgnachwr eithaf trinfa. Telid sylw manwl i bob dosbarth arno'i hun hefyd. A William Owen oedd yr arolygwr sefydlog yn y lle, yn ol defod ac arfer y dyddiau hynny.

Llwyddodd yr ysgol yn y capel, fel y daeth yn y man i rifo oddeutu cant. Telid sylw yn arbennig i hanesiaeth ysgrythyrol, a byddai'r pynciau hanesiol hynny yn ennyn bywiogrwydd drwy'r holl ysgol. Holid yn yr Hyfforddwr a rhoddid cynghorion buddiol.

Fe a ddigwyddodd, ebe Rowland Owen, i Eleazer Owen a William Owen, ef o'r Brynbugeiliaid, debygir, fyned ar ryw scawt i weithio i Lanberis. Ac yno yr oedd y ddau yn cyd-letya mewn teulu lle cedwid y gwasanaeth teuluaidd ar ddull newydd. Darllennid ar y pryd yn ryw ran hanesiol o'r ysgrythyr, bob un ei araith yn ei dro, a byddai pob un yn dweyd pwy oedd awdwr yr araith honno. Yr oedd rhyw ddull felly braidd yn dyrysu y lletywyr. Eithr hwy wnaent ati i geisio deall. O'r diwedd daethpwyd yn hyddysg yn null yr areithiau. Ac ni wiw gan Eleazer fod pobl Carmel heb yr addysg newydd hon o'r areithiau. Dosbarth of ferched oedd ganddo ef, ac eglurodd iddynt y drefn newydd o ddarllen. Hwythau am beth amser ni fynnent mo gynnyg arni. Daliodd yr athraw at ei bwnc, ac o'r diwedd hwy ddaethant oll yn hyddysg yn yr areithiau. Ysgogodd yr holl ysgol i'r unrhyw gyfeiriad, a bu hynny yn foddion i ddeffro llawer o lafur dros ysbaid led faith o amser.

Yr oedd tri o wyr wedi dod yma o Pisgah, sef Robert Jones Brynllety, Eleazer Owen a William Hughes y Buarth. Yr oedd y William Hughes yma yn wr nodedig o dduwiol, a gwnelai ei oreu i hyrwyddo'r achos. Deisyfiad yn ei weddi ydoedd, am i'r Arglwydd listio rhai o'r newydd dan Faner y Groes. Yr oedd ef yn dad i Jane Griffith Tyddyn perthi.

Ganwyd Eleazer Owen yn 1777, ac yr oedd yn fab i Owen Morris Cil-llidiart, Llanllyfni. Elai a Beibl bychan gydag ef at ei waith, a darllennai ef pan gaffai hamdden. Elai er yn fachgen i'r oedfa ar Sul y bore i Lanllyfni, y prynhawn i Glynnog, a'r hwyr i Frynrodyn. Wedi priodi Elin Rowlands Llanberis yn 27 oed y symudodd efe o Lanllyfni i Garmel. Dechreuodd weithio yn y chwarel yn naw oed, a bu'n gweithio am o fewn ychydig i 80