Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/248

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlynedd. Bu farw Tachwedd 6, 1865, yn 88 oed. Er heb broffesu, fe chwareuodd gryn ran yn nechre yr achos, ac yr oedd yn wr bucheddol. Nid Nicodemus a ddeuai i ymofyn â'r achos liw nos ydoedd, ond Joseph o Arimathea, a ddeuai i ymorol yn ei gylch liw dydd.

Griffith Williams Cae Goronwy oedd y dechreuwr canu cyntaf. Yn ei le yn y sêt fawr, fe fyddai yn canu, ebe Mr. Ephraim Jones, gyda'i law o dan ei ben, a'i droed de ar y sêt, heb lyfr. A dywed ef, hefyd, y byddai pawb y pryd hwnnw yn canu i blesio ei hun. Dechre y byddai Griffith Williams, ac nid arwain; a phyncio'n hamddenol, gan gadw'r amser gyda'i droed de; a rhoi ei feddwl ar y pwnc yr un pryd, gan roi ei ben i ogwyddo ar ei law, er mwyn gwneud hynny yn effeithiol.

Yn 1836 y gwnawd John Robinson yn flaenor, wedi dod at grefydd bedair blynedd cyn hynny.

Yn 1837 y symudodd William Owen Tŷ newydd i Lanllyfni, ar ei briodas â Jane Jones, merch Penbrynmawr. Wedi ei alw yn flaenor cyn cyrraedd ei 24 oed. Y noswaith gyntaf iddo fel swyddog, ar ol galw llyfr y seiat, fe welai nad oedd ei gyd-swyddog yno, a theimlai faich llethol arno. Methu ganddo ddweyd dim. Ar hynny dyma un hen chwaer yn adrodd ei phrofiad. Distawrwydd wedyn. Yna, yn y man, fe gafodd y blaenor ieuanc nerth i draethu yn bwyllog am gariad Crist. Arferai ddweyd wedi hynny mai dirgelwch cadw seiat oedd dwyn yr eglwys yn ddigon agos at gariad Crist. Gwr tra chyflawn.

Yn 1838 yr oedd Carmel yn daith gyda'r Bwlan a Brynrodyn.

Bu Cymdeithas Diweirdeb yn cael ei chynnal yma yn ystod y blynyddoedd 1840-3, fel mewn lliaws o fannau eraill oddeutu'r un blynyddau. Dyma'r ymrwymiad: "Yr ydym ni bennau teuluoedd yn addaw na oddefwn neb i gyfeillachu yn eu rhag-fynediad i'r stad briodasol yn ein tai ar ol deg ar y gloch y nos, ac y caniatawn ryw amser arall at hynny i bawb sydd dan ein gofal. Yr ydym ni, yn feibion a merched, yn addaw ymgadw rhag myned at dai, ac na dderbyniom i dai, neb at gyfeillachu â hwynt ar ol deg ar y gloch y nos; ac yr ydym yn addaw gochelyd pob achlysuron i aniweirdeb, ac y gochelwn gyfeillach nos Sadwrn a'r Saboth a nos Saboth." Arwyddwyd yr ymrwymiad hwn yng Ngharmel gan 27 o feibion a 23 o ferched.