Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/260

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth holi bob amser gyda'i gefn ar yr hen dresel. Robert Dafydd oedd yr arolygwr tra buwyd yma. Nodir William Parry Bryn'rhedydd, Tŷ eiddew ar ol hynny, a brawd i John Parry Caer, fel un o ysgrifenyddion cyntaf yr ysgol, ac ysgrifennydd yn yr Henfron, debygir. Dywedir fod rhif yr ysgol cyn y diwedd oddeutu 35. Gan mai tŷ bychan oedd yr Henfron, a chyda'r boblogaeth yn cynyddu, daeth galw am gapel.

Fe ddywedodd John Jones Ffridd lwyd wrth Mr. O. J. Roberts, ei fod ef yn un gydag eraill a godai gerryg ar gyfer y capel newydd, ddiwrnod coroniad y Frenines Victoria, sef Mehefin 28, 1838. Dywedai hefyd fod rhialtwch mawr ar ben Moel Tryfan ar y diwrnod hwnnw. Y mae blwyddyn yr agoriad yn ansicr. Y mae Mr. O. J. Roberts, oddiwrth bopeth a glywodd am ysgol y Fron, o dan yr argraff ddarfod iddi barhau am o ddwy i dair blynedd, ac na ddarfu iddi ddim cychwyn dan 1837, y fan bellaf yn ol. Yr oedd John Roberts, ei dad ef, yn dilyn yr ysgol yn y Gelli, ac yn un o'r rhai a gychwynnodd yn yr Henfron, ac yr ydoedd yn fyw ar y pryd yr oedd ei fab yn ysgrifennu ei nodiadau. Y mae Mr. O. J. Roberts yn tueddu i roi agoriad y capel mor bell ymlaen ag 1840. Y mae gryn anwastadrwydd ynglyn âg amseriadau yn dwyn perthynas âg agoriad y capel a sefydlu'r eglwys, fel y maent i'w cael mewn adroddiadau argraffedig ac ysgrifenedig. Eithr y mae ei adroddiad ef yn ymddangos yn meddu ar radd o sicrwydd ynglyn âg ef. Tebyg ddarfod i'r capel gael ei agor yn ystod 1839—40, ac i'r eglwys gael ei sefydlu yn ddiweddarach.

Yr oedd John Jones Talsarn yn cymeryd dyddordeb yng nghychwyniad yr achos. Efe ynghyda Robert Dafydd oedd wedi gosod y mater gerbron eglwys Talsarn. John Jones hefyd a nododd y fan yr oedd y capel i fod arno, efe a'i cynlluniodd, ac efe a roes ei enw iddo. Gelwid ef weithiau ar y cyntaf yn gapel y Fron, ond Cesarea a orfu yn y man, ac a ddaeth, fel y nodwyd, yn enw ar yr ardal ei hun. Yr ydoedd y capel ar y ffordd a arwain drwy ganol yr ardal, a thrwy chwarel y Fron i gyfeiriad Rhwng-y-ddwy-afon. Dodwyd tŷ capel ar ei dalcen dwyreiniol, ac o dan yr untô, ac yr oedd drws o'r tŷ i'r capel. O'r tu ol i'r tŷ yr oedd yr ystabl. Ar yr ochr agosaf i'r ffordd yr oedd drws i'r capel. Y pulpud ar ganol y talcen, sef y canolfur rhwng y capel a'r tŷ. Fel arfer, y pulpud yn lled uchel. Pum ffenestr, dwy ar bob ochr, ac un ar y talcen gyferbyn a'r pulpud. Sêt yn rhedeg gyda'r mur ar bob