Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CESAREA.[1]

Y FRON ydoedd enw cynhenid yr ardal. Yr oedd y Fron yn enw ar dŷ yma, ac yna ar chwarel, pa un bynnag a ydoedd yn enw ar yr ardal cyn hynny ai peidio. Fe gymerodd yr ardal yr enw Cesarea yn raddol oddiwrth y capel. Mae'r ardal yn rhanbarth uchaf plwyf Llandwrog. Deuir yma o'r Groeslon, ag sy'n lled agos i ganol. y plwyf wrth ei gymeryd yn ei hyd, drwy Carmel, hyd i ben Mynwent Twrog; neu o Benygroes drwy y Clogwyn melyn, dros y Cilgwyn, mynydd cyfagos i Fynwent Twrog. Rhyw dair milltir sydd o'r Groeslon, a llawn pedair o Benygroes. Wedi cyrraedd, dyna'r olygfa yn ymagor ar bob llaw. Yng nghyfeiriad y dwyrain y mae'r Mynyddfawr. Y mae'r ardal yn ymestyn o Fynwent Twrog hyd at esgair y Mynyddfawr. Eir ar y dde am o ddwy i dair milltir ar oriwaered i'r Nantlle. I'r gogledd-ddwyrain y mae Moel Tryfan. Chwarelwyr yw corff y boblogaeth, yn byw mewn mân dyddynod hyd yn ddiweddar, pan y dechreuwyd codi tai, naill ai yn rhesi bychain neu arnynt eu hunain.# Cyn agor y chwarelau nid oedd ond ychydig iawn o anedd-dai yn yr ardal i gyd. Tua'r flwyddyn 1835, nid oedd ond rhyw ddau neu dri o dai, heb ddim caeau, rhwng pen y Cilgwyn a Llyn y Ffynonnau. Wedi agor dwy neu dair o chwarelau ac i'r boblogaeth liosogi y dechreuwyd teimlo angen am yr ysgol Sul. Oddeutu'r amser yma y daeth John Jones, wedi hynny o'r Ffridd lwyd, i'r ardal o Feddgelert. Byddai ef a Robert Dafydd yn myned ar y Sul y bore i gyfarfod gweddi Ochr y Cilgwyn, ac yna i'r bregeth i Dalsarn, y prynhawn i'r ysgol yn y Gelli ffrydau, a'r hwyr i Dalsarn.

Rhowd ysgol y Gelli i fyny pan gychwynnwyd yr ysgol yn yr Henfron yn ystod 1837—8. Y rhai fu'n fwyaf amlwg ynglyn â'i chychwyniad ydoedd Robert Dafydd y Fron, John Jones Ffridd lwyd a John Roberts Tanychwarel. Tŷ bychan gerllaw y Fron ydoedd yr Henfron. John Roberts a ofalai am y plant. Ar ddiwedd yr ysgol deuai y rhai fyddai yn y siamber at y rhai yn y gegin i gael eu holi. Y plant ar ganol y llawr, a'r rhai hŷn o'u deutu. Adroddai'r oll y Deg Gorchymyn, ac wedi hynny holid y plant. Yr holwr yn gyffredin fyddai John Jones Ffridd lwyd. Safai ef

  1. Ysgrif Mr. O. J: Roberts (Cyndeyrn). Ysgrif Mr. David Hughes y Buarth uchaf, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1880.