Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ardal Pisgah am ddwy flynedd a hanner, ac yna dychwelodd i aros yn Nhanychwarel, oddigerth am yr ysbaid yn niwedd ei oes pan letyai gyda'i fab, Mr. O. J. Roberts. Mab arall iddo ydyw Iolo Caernarvon. Yr oedd ef yn wr nodedig. Yr ydoedd yn gâr i William Roberts Amlwch, ac ystyrrid fod gradd o debygrwydd i'w ganfod ynddynt yn eu gwynebau. Nid oedd mor gryf a llym ac awdurdodol yn ei wynepryd a William Roberts o lawer; ond yr oedd llawer o'r un meddylgarwch a chraffter i'w ganfod ynddo, a chymaint feallai o gallineb a chyfrwystra, a mwy o ddawn ymadrodd yn y llygaid, a chwareuent yn fwy ar wyneb y croen nag eiddo William Roberts. Fel meddyliwr, yr oedd yn gyffelyb i William Roberts o ran ei brif nodweddion, nid amgen, anibyniaeth, treiddgarwch a gwreiddioldeb. Ni chafodd fanteision addysg, mwy na William Roberts: darfu i argyhoeddiad crefyddol ddeffro meddylgarwch yn y naill a'r llall, a meithrin ynddynt chwaeth lem. Arwydd o ragoriaeth cynhenid ei feddwl oedd ei sylw ar natur a'i hoffter o blant. Fe dynnai wersi oddiwrth amrywiol ymddanghosiadau natur. Rhedai y plant i'w gyfarfod, fel y deuai oddiwrth ei waith, er mwyn cael ysgwyd llaw âg ef. A byddai yntau wrth ei fodd yn eu canol hwythau. Yr oedd yn rhwyddach a llyfnach ei ddawn na William Roberts, ac yn llai ysgythrog ac ofnadwy, ond fel yntau yn meddu ar ryw rin cuddiedig a daflai newydd-deb a dieithrwch a swyn cyfrin ar ei feddyliau. Yr oedd William Roberts a Morgan Howels wedi cyrraedd gradd o arglwyddiaeth ar ei feddwl ef, yn ddiau mewn rhan oherwydd gradd o gydymdeimlad dirgeledig rhyngddo â hwy yn ei ysbryd. Fe briodolir ei argyhoeddiad i'r naill neu'r llall ohonynt, heb fod yn sicr p'run; nid hwyrach ei fod yn ddyledus i'r naill a'r llall fel offerynau yn hynny. Bu'n athraw llwyddiannus am driugain mlynedd. Yn holwr plant gyda'r mwyaf medrus. Siaradwr mynych ac effeithiol yn y Cyfarfod Ysgolion. Areithiwr dirwestol selog. Yr oedd mewn cydymdeimlad â'r hen a'r newydd: adroddai sylwadau yr hen bregethwyr a'r rhai ieuainc diweddar: symudai gyda symudiadau ei oes. Medr mewn ymgeleddu a chyfarwyddo a hyfforddi. Yn wr gostyngedig a thyner a doeth. Ac yn y cyfuniad o'i ragoriaethau yn flaenor tra effeithiol yn yr eglwys. Efe fyddai yn cychwyn y cynhebryngau braidd i gyd cyn amser y fugeiliaeth. O'r tu ol i'w ragoriaethau eraill yr oedd duwioldeb diamheuol. Yr oedd ei dduwioldeb yn gyfryw ag oedd yn cydweddu â naturioldeb. Yn wr ynghanol gwŷr, yr oedd yn blentyn gyda phlant.