dyma Richard Griffith yn galw arno i aros ar ol. Dywedai wrtho yngwydd y blaenoriaid eraill, eu bod wedi ofni nad oedd am fyned ymlaen gyda phregethu. Yna fe adroddodd am dano'i hun, fel y darfu iddo yntau feddwl am fyned yn bregethwr, ond iddo ladd y meddwl am hynny, ac fel y bu bron a drysu o'r herwydd. Hawdd deall ei fod yn agored i dderbyn argraffiadau, ac yn hawdd ei ddychryn a'i gyffroi. Byddai rhywbeth neu gilydd o hyd yn gwneud iddo feddwl ddarfod iddo weled ysbryd. Eithr ynddo ef, nid arwydd o wendid ydoedd hyn, ond arwydd o nerth. Y gordeimladrwydd hwn yn wyneb pethau bychain oedd sail ei hunan-feddiant yn wyneb pethau mawr. Y mae Mr. Robert Thomas, hefyd, ar ol enwi Robert Williams Penymynydd, William Griffith Brynbugeiliaid, Robert Griffith, brawd Richard Griffith, John Morgan Tŷ cerryg, fel rhai hynod mewn crefydd, yn cyfyngu ei sylwadau i Richard Griffith. Henwr ydoedd pan adnabu Mr. Thomas ef gyntaf. Byrr, cryno. Nodwedd ei feddwl, fel y dywed yntau hefyd, oedd prudd-der. Nid yw Mr. Thomas yn meddwl ddarfod iddo'i gyfarfod ef erioed na byddai yn cwyno am ryw adwyth yn rhyw ran o'i gorff neu gilydd. A phan ymwelai efe â'r claf, ebe Mr. Thomas, fe fyddai yn sicr o gwyno mwy na'r cystuddiedig, ac yn hynny yn wahanol iawn i'w frawd o Frynperson. Nid oedd neb, er hynny, yn ameu ei grefydd ef, ond fod ei chyweirnod yn fwy yn y lleddf nag yn y llon. Fel y dywed Jacob Behmen am dano'i hun, ddarfod iddo breswylio dros ystod ei ddyddiau yn llety prudd-der, felly hefyd y profodd Richard Griffith. Cafodd argyhoeddiad llym. yn adeg un o'r diwygiadau mawr ym Mrynengan. Bu yn Sinai ynghanol y mellt a'r tarannau a'r ddaeargryn. Clywodd Mr. Thomas ef yn dweyd ddarfod iddo yr adeg honno ddringo i fynydd cribog y Graig goch, gan gymeryd yr Hyfforddwr gydag ef. Bu yno am amser lled faith, rai diwrnodiau, debygir, heb fod neb yn gwybod ei helynt. Teimlai wrth ddychwelyd oddiyno ei fod yn deall trefn gras yn well. Cyn hyn methu ganddo ers hir amser, na bwyta na chysgu nemor gan gyfyngdra enaid. Dyna'r cyfrif a rydd ei hen weinidog ohono.
Gan fod ei hanes a'i brofiad yn ei lawysgrifen ef ei hun, gerbron, ym mhrinder defnyddiau o'r fath am ddynion o'i nodwedd ef o'r un cyfnod, fe ddyfynnir ohono yma. "1887. Dyma fi, Richard. Griffith, wedi darllen y Salmau dair gwaith, a'r Testament Newydd ddwy waith, ac hyd at yr ugeinfed bennod o Lefiticus, mewn blwydd-