y flwyddyn 1837. Mi gefais wraig dduwiol. Rhodd yr Arglwydd yw gwraig dduwiol. Yr ydwyf fi wedi diolch lawer gwaith am dani hi. Wyres oedd hi i Rolant Dafydd Brynengan, yr hen bregethwr. Mi aethum i fyw i dŷ capel Brynmelyn am chwe blynedd, a daethum wedyn i ardal Nebo yn 1843. Yna mi'm codwyd i yn flaenor gwael yn Nebo. Bum yn myned i Gyfarfodydd Misol efo phump o frodyr anwyl o Lanllyfni, ond y mae nhw wedi marw, a phedwar o Nebo wedi marw. Y mae y naw yn y nefoedd. Cerddais drwy wynt a gwlaw ac eira i'r Cyfarfodydd Misol i'r ddau ben i'r sir. Tywydd go fawr a fu arna'i cyn myned i'r seiat. Pharisead oeddwn i. Yr oeddwn i'n meddwl fod gennyf grefydd reit dda. Ni wariais hanner coron erioed am gwrw. Mi ges fy meddwi unwaith mewn siomedigaeth, ac mi ddarfum regi unwaith. Ond, diolch i Dduw! mi welais na thalai fy nghrefydd i ddim, a bod yn rhaid chwilio am un well. Y mae eisieu mwy o ras o lawer i argyhoeddi Pharisead na dyn hollol anuwiol. Y mae yn anodd iawn cael y Pharisead o'i grogan. O mor anodd ydyw ein dadwreiddio oddiar foncyff yr hên Gyfamod! Yr oeddwn i'n cael cymhelliadau er yn ifanc i fynd at grefydd. Mi fyddai'r hen bennill hwnnw wrth fy meddwl yn aml,
Dewch a gadd galon newydd,
Dewch chwithau na chadd yr un,
I olchi eich ffiaidd feiau
Yn haeddiant Mab y Dyn.
A'r adnod honno yn Hosea xiii. 13, ' Gofid un yn esgor a ddaw arno: mab anghall yw efe; canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant." Yr oedd gorfoleddu mawr yn niwygiad Brynengan, ac mi ddaeth yno saith ugain i'r seiat o'r newydd. A theimlo fy hun yn galed yr oeddwn i. Yr oeddwn i yn fy ngwely yn y Bwlchgwyn. Mi welais beth rhyfedd: nid wn i ddim p'run ai breuddwyd ai gweledigaeth oedd o. Gweled Dydd y Farn, a thân yn rowlio o nghwmpas i, a minnau ar fy ngliniau ynghanol y ddrycin. A'r peth cyntaf a ddarfu imi oedd gweiddi, "Bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw," nes deffrôdd pawb yn y tŷ ganol nôs. Mi godais innau o fy ngwely ganol nôs, a mi a eis i ben Mynydd y Cenin i grwydro fel dyn wedi drysu. Mi gefais fy argyhoeddi nad oeddwn i erioed wedi meddwl fod y fath for o lygredigaeth yn fy nghalon, a'r fath elyniaeth yn erbyn Duw a'i waith, nes oeddwn i'n meddwl nad oedd neb dyn mor lygredig a mi ar y ddaear nac yn uffern. Bum fel dyn wedi drysu yn hir.