Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/289

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ofn dweyd fy mhrofiad i neb. Yr oeddwn i wedi meddwl nad oedd neb yr un fath a mi. A'r ysbryd drwg yn fy nhemtio i fynd yn ddeist i wadu popeth. Yr oeddwn i'n mynd adref ryw noson o gyfarfod gweddi efo hen flaenor Brynengan, a dyma fo yn gofyn i mi fy mhrofiad wedi i mi fynd at grefydd, a minnau ddim yn leicio dweyd dim, rhag ofn iddo fy nhorri o'r seiat, nes iddo fo ddywedyd ei brofiad ei hun yn gyntaf. Ac yna dyma fi'n dechre gwaeddi, 'Griffith anwyl, nid oeddwn i ddim yn meddwl fod neb ar y ddaear yr un fath a mi o'r blaen.' Mi wn am yr hen weirglodd lle'r oedd o'n dweyd wrtha i. Dyma yr amser cyntaf imi obeithio am drugaredd. Ac wedi i ni ymadael â'n gilydd, mi eis adref i'r Bwlchgwyn dan weiddi hynny a fedrwn i. Mi ddaeth yr adnod honno i fy meddwl i, 'A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i'n Duw ni: llawer a welant hyn ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr Arglwydd.' Mi fynnai Satan i mi fynd i ardal arall i wrthgilio. Ond drwy ras y nefoedd, dyma fi wedi cael cymorth i ddal efo chrefydd dros driugain mlynedd, er gweled aml a blin gystuddiau. Ond y mae crefydd yn talu ei ffordd yn dda yn yr anialwch."

Yn 1898 ymwahanwyd oddiwrth Saron fel taith Sabothol, pob lle yn myned arno'i hun.

Yn 1900 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, T. H. Griffiths, J. Hughes, Evan Jones.

Rhif yr aelodau ar ddiwedd 1900, 187. Swm y ddyled, £91. Yn 1879 yr oedd y ddyled yn £1539.

Gan fod adgofion Mr. Robert Williams mor helaeth, ac o nodwedd mor bersonol, fe'u cadwyd at y diwedd i'w cyflwyno gerbron gyda'u gilydd. Fe'i ceir yn ddrych, ag y gwelir ynddo gyflwr pethau, yn ardal Nebo yn enwedig, yn y cyfnod y sonir am dano. Oblegid helaethrwydd y sylwadau, rhaid oedd crynhoi a chwtogi mewn mannau. Gadawyd i mewn rai pethau nad ydynt ar ryw wedd nemor fwy nag ail-adroddiad ar bethau a gafwyd o'r blaen, a hynny er mwyn y fantais o edrych arnynt o fwy nag un cyfeiriad.

"Yr oedd yr hen gapel yn edrych oddiallan yn lled debyg i'r un presennol, ond ei fod gryn lawer yn llai. Yr oedd gwyneb hwnnw, fel hwn, tua'r gogledd. Y tŷ wrth ei ochr, yr ochr nesaf at Gors y llyn, a ffrynt y ddau yn gydwastad.