Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Roberts Tyddyn hên i'w swydd: cymeriad da a dawn gweddi. Yn gynnil wrth natur, ond yn hael at yr achos. Bu farw yn orfoleddus â'r pennill hwnnw ar ei wefusau, Mi lyna'n dawel wrth dy draed.'

"Yr oedd i David Roberts Tal y maes ei nodweddion, oedd yn ei osod ar ei ben ei hun. Cyn ei droedigaeth yn bysgotwr mawr, fel y disgyblion. Ond gan nad yw afonydd Brydain mor rydd a Môr Galilea, ni physgotodd fawr ar ol ei droedigaeth. Yr oedd wedi bod yn amlwg gyda chrefydd pan yn ieuanc, a thybiai rhai y gallai wneud pregethwr, os na fu efe yn meddwl am hynny ei hun. Ac yr oedd ar hyd ei oes yn ymddangos i raddau fel dyn wedi colli ei nôd. Aeth i gellwair â'r ddiod, ac am gyfnod bu ymhell ar gyfeiliorn. Dan bregeth John Ogwen Jones yn sasiwn Caernarvon, Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir; i halen y rhoddir hwynt,' y daliwyd ef megys gan wys oddiuchod. A bu'n ddyn newydd ac yn sant gloew ar ol hynny. Dawn arbennig i siarad. Yn gofyn amser i ddod at ei bwnc, ond wedi cael gafael arno, dygai allan ohono bethau newydd a hên.

"Yn nhŷ'r capel y mae Joseph Thomas tra'r ydym yn ymgomio fel hyn, a'r gynulleidfa yn dechre anesmwytho eisieu ei weled yn dod i mewn. Pwy sydd yma i ddechre canu? Dyna'r codwr canu hynaf, William Evans Talymaes, yn y sêt fawr. Oherwydd henaint lluddiwyd iddo barhau. Clywais ef unwaith yn ceisio mewn cyfarfod gweddi ym Mlaen y foel. Gallwn dybio fod ganddo ryw un dôn, a honno yn cael ei chyfaddasu â slyrs i bwrpas y gwahanol hydau. Yr oedd ganddo yn ei henaint lais fel merch. A chyda llais mwyn, toredig, tremolo naturiol, ac nid tremolo gwneud, canai, 'Ethol meichiau cyn bod dyled, Trefnu meddyg cyn bod clwy,' gan roi pwyslais ar y gair mwyaf pwysig â slyr hir. A'r rhai oedd yn bresennol yn ceisio dod i mewn ar ambell i nodyn fel cyfeiliant iddo. Mae William Evans wedi gadael y gymdogaeth. Mae golwg batriarchaidd iawn arno gyda'i wallt gwyn, llaes, yn disgyn ar ei ysgwyddau.

"Ond ni wiw disgwyl wrth William Evans i godi'r canu heno, oblegid dacw Thomas Griffith yn y sêt ganu ynghanol y capel. Ar ol William Evans y daeth ef i'r swydd. Mae ganddo ef ei lyfr emynau bob amser. Ac nid oes ond rhyw ddau neu dri eraill yn yr holl gapel yn dod â'r llyfr emynau i'r gwasanaeth. Oblegid ledio pennill o'i gof y byddai pawb y pryd hwnnw ond y pregethwr. Myned drosto unwaith. Ail-adrodd y ddwy linell gyntaf a'u canu,