a adnewyddwyd yn niwygiad 1859 (m. Hydref 11, 1866, yn 59 oed); Owen Roberts, mab Owen Roberts Tŷ capel, a welai bethau bychain eisieu eu gwneud ac a'i gwnelai, ac a adroddai sylw ar ol Owen Thomas, fod bod yn ddefnyddiol ar y ddaear yn nesaf dim at fod yn ogoneddedig yn y nef (m. Gorff. 7, 1866. Gweler y Drysorfa, 1868, t. 109); Henry Parry Frondeg, ddiniwed, dduwiol. "Tal, main, syth, a gwallt gwyn, llaes ganddo," ebe Mr. Morgan Jones. A dywed nad a'n angof ganddo ei ddull yn dechreu'r ysgol un bore Sul, pryd y rhoes allan y pennill, "Y Saboth, hyfryd ŵyl yw hon, Na flined gofal byd mo'm bron" (m. Ebrill 23, 1869). Hugh Williams Pant y frân, a orfoleddai dros y tŷ ar ganol nos, ac a welai Iesu Grist "yn dod i'w nôl" yn ei funydau olaf (m. Hydref 26, 1873, yn 22 oed); William Griffith Bryneithin, fawr, esgyrnog, ffrwyth 1859, yn gryn ddarllenwr ar lyfrau ac ar y Beibl, un o ddarllenwyr cyhoeddus y pwyslais a'r oslef (m. Rhagfyr, 1873); Jane Jones Pennant, dawel, faddeugar, ffyddlon yn y moddion er gwaethaf y ffordd, ac un a roes argraff o dduwioldeb nodedig ar rai pobl (m. Mai, 1877); John Jones Bryncoch bach, brodor of Aberdaron, heb nemor ysgol a gyrhaeddodd fesur o wybodaeth fuddiol mewn amryw ganghenau, ac a'i gwnaeth hi'n wasanaethgar i'r amcan uchaf (m. Ionawr 19, 1880). Ond yr amser a ballai i'w henwi i gyd, er fod William Roberts yn traethu am amryw eraill, ac yn enwi nifer wedyn ag y dywed am danynt y gallesid dweyd llawer am eu nodweddion. Heddwch i'w llwch!