Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/299

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENYGROES (BETHEL).[1]

TUA 13 milltir i'r gorllewin o Dalsarn, a 6 milltir i'r deheu o Gaernarvon yw yr ardal hon. Tua diwedd y ddeunawfed ganrif nid oedd yma namyn un tŷ tô gwellt, a gelwid ef Pen y groes, am ei fod wedi ei adeiladu gerllaw croesffordd. (Cymru Owen Jones, d.g. Nantlle). Erbyn dechreu'r bedwaredd ganrif arbymtheg yr oedd yma dri o dai yn y fan a elwid wedi hynny yn Heol yr Efail, ac un tŷ go helaeth, a berchenogid ac a breswylid gan John Edwards, gwr crefyddol. Yn y tŷ hwn y cychwynnodd yr ysgol Sul ym Mhenygroes, yn 1827 yn ol rhai, yn 1830 yn ol Canmlwyddiant Ysgolion Sul Clynnog, etc. (t. 23). Ysgol gymysg o Fethodistiaid ac Anibynwyr ydoedd am ysbaid, nes codi capel i'r Anibynwyr gan y Parch. Isaac Harries (Soar) yn 1834, ar ei gyfrifoldeb ei hun. Gwan fu'r achos yma am dymor lled hir. (Hanes Eglwysi Anib. III. 232). Er yn ysgol gymysg ar y cyntaf, cangen-ysgol ydoedd o Lanllyfni. Enwir fel rhai a fu yn llafurio gyda hi: Dafydd Jones Penbrynmawr, Dafydd Williams Eithinog, Harry Parry Penygroes, Owen Eames Coedcau, Solomon Pritchard Clogwyn lodge. Hyd dymor adeiladu capel yr Anibynwyr y bu yr olaf yn llafurio gyda'r ysgol hon, canys fe berthynai i'r enwad hwnnw.

Ar ddalen wen cofnodlyfr Robert Parry Llanllyfni, y mae'r cofnod yma: 1837. Mai 15. Cyfarfod Dirwestol Penygroes. Bore (10), gweddiodd Griffith Solomon. Areithiodd Seth Roberts Amlwch, Moses Jones, Mr. Davies Llanerchymedd. Diweddwyd gan William Roberts Caergybi. Am 2, gweddiodd Mr. Davies Llanerchymedd. Areithiodd Griffith Solomon, William Davies Ceidio, William Roberts Caergybi. Diweddwyd y cyfarfod gan. Moses Jones.

Yn y Cyfarfod Misol, Hydref 8, 1844, yn ol Cyrus, yn ei ysgrif ar Lanllyfni, y mae William Owen Penbrynmawr yn dadleu am gael achos ym Mhenygroes, pryd y gohiriwyd y mater. Yn y ddau Gyfarfod Misol dilynol, yr oedd William Owen yn dadleu yr achos drachefn, a John Jones Talsarn yn ei gefnogi. Cariwyd y maen i'r wal. Yr oedd capel bychan gan y Wesleyaid yn Nhreddafydd, wedi ei adeiladu ers 1830. Yr oeddynt erbyn hyn wedi rhoi yr achos i fyny yno. Cymerodd William Owen y capel ar ei gyfrif-

  1. Ysgrifau Mr. Griffith Lewis a Miss Williams Gwynfa. Dyddlyfr William Griffith, 1886-92, drwy ddwylaw ei ferched, y Misses Griffith Alun House.