Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/300

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oldeb ei hun yn 1845, ar ardreth o £5 yn y flwyddyn. Parhaodd y cytundeb hwnnw hyd nes adeiladwyd capel Bethel. Yr un flwyddyn ag y cymerwyd y capel y sefydlwyd yr eglwys yno, sef y bedwaredd gangen-eglwys o Lanllyfni. Eithr, er sefydlu yr eglwys yn 1845, byddai'r aelodau yn talu eu casgl mis yn Llanllyfni am ystod un flwyddyn arall.

Y mae Cyrus yn nodi'r personau yma fel y rhai a aeth o Lanllyfni i ffurfio'r eglwys ym Mhenygroes: Dafydd Jones Penbrynmawr, William a Mary Owen eto, Dafydd Williams Eithinog, John a Jane Roberts Treddafydd, Wm. Prichard Bethel Terrace, Ann Thomas Powell Terrace, Laura Morris Minffordd, Morris a Mary Prichard Cae efa lwyd, Owen Evans Coedgia, B(?) Prichard Llwyndu Terrace, Owen a Catherine Humphreys Treddafydd, Hugh a Jennet Jones Hendy, Mary Griffith, Mary Williams Caesion, Henry Parry, Ann Parry, Catrin Elis. Rhif, 22. A dywed Mr. Griffith Lewis, hefyd, nad oedd y rhif ar y sefydliad namyn rhyw 25, rhwng brodyr a chwiorydd.

William Owen ydoedd y prif arweinydd gyda'r ysgol yn ei blynyddoedd cyntaf yn y capel, a chynorthwyid ef gan Hugh Jones Hendy, John Roberts Treddafydd, Benjamin Pritchard Minffordd, Owen Humphreys Treddafydd.

Y Dafydd Williams Eithinog, a enwir fel un o brif noddwyr yr ysgol yn y cyfnod cyn ei symud i'r capel, ac a enwir hefyd fel un o'r aelodau cyntaf a ddaeth yma o Lanllyfni, a fu farw yn fuan ar ol hynny. Dygodd sel gyda'r ysgol ym Mrynaerau hefyd. Cyfan- soddodd Eben Fardd farwnad iddo, a gafwyd ym meddiant Mr. Griffith Lewis. Dyma ddau bennill ohoni:

Gwisgo 'rydoedd lifrai'r nefoedd,
Arddel Iesu Grist yn hy',
Fel mewn cynulleidfa gyhoedd,
Felly gartref yn ei dŷ;
Mynych gyrchai i'r pregethau,-
Cofiai'r cwbl a gae ei ddweyd:
Traethai eilwaith swm y pethau,
Gan eu selio trwy eu gwneud.

Trwy dduwioldeb ymarferol,
Ei ddylanwad ydoedd gref;
Yn ei ardal cadwai reol,-
Yn ei dŷ fe'i perchid ef;
Trwy ei dymer bwyllog, wastad,
Hoff gan bawb o'i deulu oedd;
Trwy ei gyson ymarweddiad,
Parch ei ardal gae ar goedd.