Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/309

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fater yn dangos craffter sylw gwr darllengar. Wedi ei ddanfon gan Gyfarfod Misol neu Sasiwn, daeth ar ei dro ar fore Sul i Engedi, Caernarvon, gan ddadleu hawl eglwysi Seisnig y Cyfundeb i dderbyn cynorthwy yr eglwysi Cymreig. Yr ydoedd Robert Roberts, Carneddi y pryd hwnnw, i bregethu ar ol y cyfarchiad. Cydnabyddai'r dadleuydd dros yr eglwysi Seisnig nad oedd yr iaith honno i'w chystadlu â'r Gymraeg, ac fel enghraifft o'r gwahaniaeth, cymharodd hwy mewn un man, lle sonir am y sycamorwydden ffydd. Yno y mae " Ymddadwreiddia" y Gymraeg, yn y Saesneg yn "Be thou plucked up from the root," sef un gair yn ateb i saith. Fe ddaeth yr enghraifft hon mor gwbl anisgwyliadwy, fel y bu'r pregethwr o'r tu ol yn ysgwyd dan chwerthin, heb fedru peidio, am gryn ennyd. Dioddefodd ei gystudd yn dawel amyneddgar, er yn teimlo'r groes yn drom am na chaniateid iddo bregethu. Ar ddyledswydd deuluaidd yn ystod blynyddoedd ei gystudd, fe weddiai rai prydiau, "O Arglwydd! iacha dy was," a phrydiau eraill, "O Arglwydd! gollwng dy was." Ei eiriau olaf, "Clôd, clôd, clôd i'w enw mawr!" Hoffid ef gan liaws, cerid ef yn ei deulu, mawrygid ef yn eglwys Bethel. (Drysorfa, 1888, t. 148. Goleuad, 1888, Mawrth 1, t. 8).

Y flwyddyn hon derbyniodd y Parch. W. Elias Williams alwad yma o eglwys Pentir.

1893. Galw i'r swyddogaeth y Dr. Hugh Jones-Roberts a Griffith G. Owen (Geraint). Daeth y cyntaf i le ei dad, y Dr. Evan Roberts, fel trysorydd yr eglwys.

1894. Mewn pwyllgor ymweliadol a gynhaliwyd yn Ebrill, pryd yr hysbyswyd fod lliaws o blant yng nghymdogaeth Ty'nyweirglodd yn treulio'r Sul i chware a rhodianna, penderfynwyd ymholi i'r mater. Ar ol cadarnhau y dystiolaeth, cymerwyd tŷ gwag yn Llwyn y fuches, a chynhaliwyd ysgol a chyfarfodydd eraill yno dan arolygiaeth Mr. T. W. Williams a G. G. Owen. Parhawyd y gwaith am 4 blynedd. Mae amryw o'r plant bellach yn aelodau yn eglwysi'r gymdogaeth.

Tachwedd 15 y bu farw John Roberts (Buarthau), yn 82 oed, ac wedi gwasanaethu yma fel blaenor er 1870. Gwr tal, cryf, a gwrid ar y croen yn ei flynyddoedd olaf. Llefarwr parod, yn cydio yn y pwnc yn ei wedd ymarferol, ac yn tewi cyn myned yn faith. Dyn hyweth, siriol, dymunol, ac yn rhoi'r argraff fod yn feddiant iddo