ryw beth cuddiedig, nad oedd eisieu mo'i wthio i'r golwg. Byddai'r cynulliad yn sirioli pan godai efe i gymeryd rhan mewn gweddi. Rhoddai'r pennill allan o'i gof bob amser. Mewn gweddi yr oedd cuddiad ei gryfder. Yma y teimlid ei rym. Deuai dawn i'r golwg yma na wyddid ei fod yn berchen arno o'r blaen, ac ar adegau byddai rhyw nerth anorchfygol gydag ef. Yr oedd yn athraw cymeradwy, ac adroddai ei ddosbarth fwy o'r ysgrythyr allan oddiar y cof na'r un dosbarth yn yr ysgol. Yr oedd efe ei hun wedi trysori i'w gof nid yn unig ysgrythyr, ond cryn swrn o farddoniaeth grefyddol. Y diwrnod olaf y bu efe byw, fe ddarfu Mr. Griffith Lewis ysgrifennu i lawr, fel y dywedai ef hwynt, nifer o benillion anadnabyddus, a genid yn y moddion cyhoeddus gynt, a chyhoeddodd hwy yn daflen fechan 4 tudalen. Nid hwyrach mai nôd yr un meddwl a welir ar y rhan fwyaf ohonynt. Pe dodid hwy i lawr yma ni chymerent gymaint a hynny o le, ac fe wneid hynny nid oblegid eu barddoniaeth, ond eu teimlad crefyddol. Y maent yn ddiau yn bethau a aeth drwy feddwl John Roberts ei hun lawer canwaith, gan liosogi adsain yn yr ystafelloedd dirgel. Fe ddanghosant beth oedd maeth ysbrydol dynion cyffelyb i John Roberts, ag y bu cryn liaws ohonynt gynt ymhlith Methodistiaid Arfon. Llinell ohonynt hwy oedd y gair olaf clywadwy a ddaeth dros ei enau,— O mor gyfyng—rhaid mynd trwy! Wele nhwy ynte:
Fe ddaw diwrnod sobr, effro, |