Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/318

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y prif offeryn yn hynny o waith. Cynorthwyid ef gan John Robinson, un o flaenoriaid Talsarn, a dechreuid y canu gan D. Davies. Yn Hendy'r Felin y cynhaliwyd yr ysgol gyntaf, a 19 oedd yn bresennol. Erbyn yr ail Sul yr oeddys wedi symud i'r Hendy mawr, lle a oedd mewn rhan yn anrhigiannol ar y pryd, ac aroswyd yno tua dwy flynedd, a chynyddodd yr ysgol yno i 80 neu 100 o nifer. Y mae Mr. Owen Hughes o dan yr argraff ddarfod. i'r ysgol aros yn Hendy'r Felin dros encyd o amser.

Yn 1859, fe benderfynwyd adgyweirio'r Hen Ysgubor,—man perthynol i'r Hendy mawr, ag y dywedid ar draddodiad ddarfod iddo wasanaethu fel ystabl i feirch Iorwerth I., ac a erys eto,—gan ei wneud yn gymwys i gynnal yr ysgol ynddo, cystal a chyfarfodydd eraill. Ei fesur, 19 llath wrth 5. Awd i draul o yn agos i £72. Casglwyd yr arian yn y gymdogaeth, ac agorwyd yr Hen Ysgubor fel lle addoliad yn ddiddyled. Cafwyd cyfarfod pregethu ar Lun y Pasc dilynol, pryd y gwasanaethwyd gan R. Hughes Uwchlaw'r ffynnon, J. Jones Brynrodyn, ac Edward Jones, gweinidog gyda'r Anibynwyr yn Nhalsarn. Yr oedd prydles ar yr adeilad gan J. Lloyd Jones, a chyflwynodd ef i'r Cyfundeb tra fyddai y brydles mewn grym.

Y pryd hwn nid oedd ond rhyw ugain o dai yng nghymdogaeth y capel, a theuluoedd ieuainc yn dechre sefydlu yn y byd oedd lliaws ohonynt. Yr oedd arweiniad yr achos yn llaw J. Robinson, fel swyddog yn eglwys Talsarn. Efe a feddai'r profiad ysbrydol, ac yr oedd John Lloyd Jones yn gwbl ufudd iddo. John Lloyd Jones oedd yr arweinydd naturiol, er hynny, ac efe hefyd oedd yr ysgrifennydd. D. Davies yn parhau i arwain y canu. O. J. Hughes yn arolygwr. Enwir eraill a fu'n ffyddlawn gyda'r achos, megys Morris Griffiths (Tŷ'r capel), Ellis Edwards a G. Williams Ffridd. Yr olaf, er hynny, heb broffesu.

Yr oedd 134 o eisteddleoedd yn yr Hen Ysgubor, a gosodid hwy i gyd, a chwecheiniog y chwarter oedd pris eisteddle. A derbyniwyd yn 1862, £13 7s. am yr eisteddleoedd, fel nad oedd ond swllt yn brin o fod pawb wedi talu ei ddyled yn llawn. Rhif yr eglwys yn 1862, 50. Y casgl at y weinidogaeth, £12 13s.

Hwyrfrydig a fu'r Cyfarfod Misol i sefydlu achos yn y lle, a gwrthodwyd y cais am bregethu cyson yma. Pregeth achlysurol yn unig a geid yn ystod rhyw ddwy flynedd o amser. Bu'r Parch.