Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/319

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robert Jones Llanllyfni yma droion, ac eraill o'r enwadau eraill. Gallesid tybio oddiwrth swm y casgl at y weinidogaeth y rhaid fod yr eglwys wedi ei sefydlu yn lled gynnar yn y flwyddyn 1862, os nad cynt. Yng Nghyfarfod Misol Nebo, Tachwedd 3, 1862, pa ddelw bynnag, y penodwyd y rhai yma i ddod i "gynorthwyo i ddewis diaconiaid," nid amgen y Parchn. John Jones [Brynrodyn], W. Hughes [Talysarn], D. Morris a Mr. W. Owen [Penygroes]. Gelwid blaenoriaid yn gyffredin ar sefydliad yr eglwys. Yr oedd yr achos yma i fesur yn un eithriadol, ac yr oeddys wedi cynefino â'i ddwyn ymlaen gyda chynorthwy John Robinson. Nodir 1861 gan rai fel adeg sefydlu'r eglwys. Buwyd yn cynnal ysgol, cyfar- fodydd gweddi, pregethu achlysurol, am oddeutu pedair blynedd cyn hynny. Y blaenoriaid a ddewiswyd: J. Lloyd Jones, W. Davies, Thomas Roberts. Galwyd yr olaf yr un pryd i arwain y gân. Trefnwyd oedfa yma bob Sul o Dalsarn.

Anrhegwyd John Robinson â'i lun, o waith y Parch. Evan Williams, fel cydnabyddiaeth o werth ei lafur yn ystod y blynyddoedd cyn sefydlu'r eglwys.

Yn 1864 y daeth John Reade yma o Ryd-ddu, Swyddog yno, a galwyd ef yma ar ei ddyfodiad.

Yr Hen Ysgubor, neu'r ysgoldy bach, fel y gelwid y lle wedi ei wneud yn lle addoliad, bellach wedi myned yn anhwylus o fychan. Penderfynu cael capel. Dewiswyd y llecyn i'w adeiladu gyferbyn a'r llaindir rhwng y ddau lyn. Tynnwyd y brydles allan yn 1866 am 60 mlynedd, gyda £1 y flwyddyn o rent i'w thalu i stât Hughes Kinmel. Yn 1895, fe gyflwynwyd y tir, 1540 llathen ysgwar, ynghyda'r adeiladau, i'r Cyfundeb.

Richard Davies Caernarvon ydoedd yr adeiladydd. Maint y capel, 18 llath wrth 121. Deunydd y muriau ydoedd gweddillion plociau cerryg y chwarel. Y tô o dri math ar lechau, fel y gweddai mewn ardal chwarelau, sef o liw glas a gwyrdd a choch, wedi eu trefnu â llaw gelfydd, ac yn rhyw gyfateb yn y lliwiau, er yn an- fwriadol feallai, i las a phorffor ac ysgarlad y Tabernacl gynt. Y seti o ffawydd coch, heb ddorau, wedi eu hystaenio. Y pulpud o binwydd pŷg cyrliog. Llawr o deils amryliw. Y nenfwd hanner crwn o goed wedi eu hystaenio. Tair arddeg o ffenestri yn pwyntio at y nen, gydag un o'r nifer yn ffenestr fawr amryliw ar wyneb y capel. Pedair o lampau pres mawrion, a thair cainc i bob un.