Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn amser yr hen gapel. Gwelwyd fod ei breswylfod ef o fewn muriau y capel hwnnw.gwir arwyddlun ei fuchedd ysbrydol, canys yr oedd efe yn un o breswylwyr tŷ Dduw, y rhai yn wastad a'i moliannant. Yr oedd Sian Jones, a oedd oddeutu tair arddeg oed pan fu Robert Roberts farw, ac a fu farw ei hunan yn gant a dyflwydd oed agos, yn cofio clywed Robert Roberts mewn gweddi droion o fewn ei dŷ, cyn dechre'r gwasanaeth yn y capel, o'i heisteddle yn llofft y capel uwchben y tŷ. Pan ofynodd Robert Jones Rhoslan iddo ef unwaith, ymha le y cafodd efe y bregeth ofnadwy honno oedd ar y pryd yn peri'r fath effeithiau yn y wlad, gan gyfeirio at ryw bregeth neilltuol, efe a'i cymerodd ef o'r neilltu o fewn y tŷ, gan gyfeirio gyda'i fŷs i'r tufewn i un ystafell, "Yn y fan yna," ebe fe, ar fy ngliniau, y cefais i hi." Fe glywyd Richard Owen yn adrodd am dano yn nhymor ei argyhoeddiad, yn fachgen un ar bymtheg oed, yn cerdded y gwylltoedd unig, gan ollwng allan y waedd, "O !" drosodd a throsodd, fel yr aeth y sôn am "O! Robert Roberts" drwy'r wlad. Ei genadwri i'w oes a ddelweddwyd ar ei ysbryd yn ing yr argyhoeddiad hwnnw. Fe arferir cydnabod am dano, ei fod ef mewn modd arbennig yn un o'r rhai hynny ag y mae dirgelwch eu dylanwad yn rhyw fodd ynglyn wrth eu personoliaeth. Ymhlith y Methodistiaid, Howell Harris oedd yr hynotaf yn hynny o'i flaen ef, ac Evan Roberts ar ei ol. Yn wr ieuanc, cyn yr anhwyldeb a gafodd, yr oedd rhyw graffter yn ei ymddanghosiad a barai i ddieithriaid holi pwy ydoedd. Ar ol yr anhwyldeb hwnnw, fe anharddwyd ei berson, nes fod yr olwg arno fel un yn ymgrebachu ynghyd. Eithr fe arosodd dirgelwch ei bresenoldeb. Fe'i teimlid yn ei ardal ei hun yn gymaint ag yn unlle. Fe'i canfyddid ef yn dyfod i'w cyfarfod ar y ffordd unwaith gan ddau wr ieuainc ag oedd yn frodyr, ac o safle uwch na chyffredin yn yr ardal, wedi bod ohonynt yn rhyw helynt yn ddiweddar ag y teimlent radd o gywilydd o'r herwydd, er nad oedd ganddynt ddim lle i feddwl y gwyddai ef ddim am yr achos. Y fath oedd arswyd ei bresenoldeb ar eu meddwl, pa fodd bynnag, fel y diangodd y naill drwy'r gwrych, ac y gorweddodd y llall i lawr yn ei hydgyhyd ar waelod y drol, nes ei fod ef wedi myned yn llwyr heibio iddynt. Adroddid gan Mr. Thomas Gray wrth Mr. Howell Roberts, yr hyn a glywodd efe am dano gan hen wraig yn Llundain. Yr oedd Robert Roberts yn cael ei ddisgwyl ar un tro gan gynulleidfa orlawn. Wedi dod i mewn a dringo i fyny risiau'r pulpud, ac ar ol eistedd, fe daflodd gil ei olwg ar y gynulleidfa, yn rhyw ddull megys