Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddigyffro, er ar yr un pryd yn arwyddo cyffro mewnol cuddiedig. Ar darawiad, dyna waedd o orfoledd yn torri allan dros y gynulleidfa i gyd! Y dirgelwch presenoldeb hwn a ieuwyd ynddo ef â dylanwad cyffroadol anghymarol. Fei gwelwyd ef ar ganol oedfa ddilewyrch yn gostwng ei wyneb i orffwys ar y Beibl, gan aros ysbaid yn yr agwedd honno, nes bod arswyd yn ymaflyd yn enaid y gynulleidfa, ac ar ei waith yn codi ei ben i fyny, gwelid ei wyneb yn disgleirio, a chydag effaith ryfedd ar y bobl yr elai ymlaen o'r fan honno gyda'i bregeth. Fe arferai William Owen Prysgol ag adrodd am ewythr iddo ef yn ei wrando. Troes y pregethwr ei wyneb at y pared yn rhyw fan ar ei bregeth, gan erfyn ar yr Arglwydd am iddo amlygu ei hun gyda'r genadwri, a phan y troai drachefn yn ol at y gynulleidfa, yn nychymyg ewythr William Owen yr oedd megys gwreichion byw yn disgyn drwy'r awyr uwch- ben. Ymhlith siaradwyr ni bu neb lluniedydd hynotach nag ef. Edrydd Robert Owen Aberdesach, gwr deallus a goleu ei feddwl o'r gymdogaeth, yr hyn a glywodd gan ei fam, Ann Roberts, ar ol ei mam hithau, yr hon oedd yn gyfnither i Robert Roberts, ac a fu farw yn 1844 yn 88 mlwydd oed, sef ydoedd hynny, y disgrifiai Robert Roberts y drwg mor fyw fel y llechai rhai o'r gwrandawyr allan o'i wydd, ond pan elai ymlaen i ddisgrifio'r da drachefn, y deuai y cyfryw allan o'u cuddfeydd. Fe gofir y byddai efe yn pregethu mewn tai annedd ac ysguboriau, ac yn achlysurol yn yr awyr agored, cystal ag mewn capelau. Ei ddisgrifiadau oeddynt fyw ac eang a manwl. Arferai Christmas Evans a chydnabod bob. amser mai Robert Roberts a roes yr allwedd iddo ef i'w ddawn ei hun. A chyda'r weledigaeth eang efe a gyfunai y ddawn o grynoder; a byddai ganddo ddyweddiadau bachog, eofn, trydanol, y fath ag a gyffroai y meddwl ac a arosai yn ddiogel yn y cof, gan brofi eu hunain megys hoelion wedi eu sicrhau gan feistr y gynulleidfa. Yr oedd ei lais yn cyfateb i'w nodweddiad, yn groew, yn soniarus, yn uchelsain, yn rhoi mynegiad parod i holl gyffroadau disymwth a dieithrol ei feddwl. Angel oedd efe yn ehedeg ynghanol y nef a'r efengyl dragwyddol ganddo. Nid yw Eben Fardd ond yn adrodd yr argraff ar ei feddwl ei hun, oddiwrth yr hyn a glywodd am dano gan hen bobl Clynnog, pan y disgrifir ef ganddo fel "Seraff o'r Nef yn siarad." Argraffodd ei ddelw yn amlwg ar eglwys y Capel Uchaf; ac yr oedd y ddelw honno yn amlwg yma dros ystod y ganrif ddiweddaf mewn angerddoldeb ac mewn ehediadau teimlad. Ar ei wely angau, a'r seiat ar y pryd yn y capel, fe ofyn-