Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nodd i'w wraig estyn ei ddillad goreu iddo. "I ba beth ?" gofynnai hithau. "Yr wyf am fyned i'r capel i ffarwelio â'r eglwys," ebe yntau, a gorfu ildio iddo fyned. Dywedodd wrth yr eglwys ei fod gyda hwy am y tro olaf, na welent ei wyneb ef mwy yno, a rhoes iddynt aml gynghor, nes y torrodd yr holl eglwys i wylo o hiraeth a dychryn. Yng ngyrfa ffydd, fe aeth o'r naill brofiad i un arall dyfnach, ac o nerth i nerth, nes ymddangos ohono gerbron Duw yn Seion. Yr oedd y dorf a ymgynullodd i neilltuaeth y Capel Uchaf i'w gynhebrwng yn llenwi'r lôn yr holl ffordd oddiyno i eglwys Clynnog, filltir o bellter, ac nid oedd y rhai olaf wedi cychwyn pan gyrhaeddodd y rhai blaenaf yr eglwys. Ac yr oedd yr alaeth yn y wlad ar ei ol yn fwy angerddol efallai nag ar ol neb pregethwr a fagodd Cymru.

Rywbryd yn ystod 1803-4 y dechreuodd William Roberts bregethu.

Yn 1811 fe chwalwyd y capel ac adeiladwyd un arall. Yn fuan ar ol hynny, oddeutu'r flwyddyn 1812, fe brofodd yr eglwys hon ymweliad arall. Fe berthynai i'r eglwys ferch ieuanc, a arferai dorri allan i foliannu yn gyhoeddus ar brydiau. Arferai hi a chyfeilles iddi adrodd penodau yn yr ysgol. Un tro wrth wrando arni, fe deimlodd ei chyfeilles yn ddwys oddiwrth y gair a adroddid, a thorrodd allan i lefain. Ar ol hyn, fe fyddent hwy ill dwyoedd yn torri allan mewn gorfoledd yn fynych yn y moddion, ond nid neb arall. Yr oedd William Roberts yn pregethu ar un tro, a Robert Dafydd Brynengan gydag ef yn y pulpud, ac i fod i bregethu ar ei ol. Testyn William Roberts oedd Luc ix. 62: "Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i deyrnas Dduw." Yr oedd yr effaith yn anisgrifiadwy, y rhan fwyaf yn gweiddi, eraill yn wylo, eraill wedi eu dal gan syndod. Fe deimlid fod Duw yn y lle. Ni phregethodd Robert Dafydd, ac yr oedd yntau ei hunan fel un a'i fryd ar dorri allan mewn mawl. Cyn hyn nid oedd anuwioldeb cyhoeddus yr ardal wedi ei gwbl ddarostwng. Wedi i'r adfywiadau laesu, ail godai hen ddrygau eu pen; ond ar ol yr adfywiad yma fe newidiwyd gwedd yr holl ardal. Hyd yn hyn, fe arferid cynnal Gwylmabsant ar Lun y Sulgwyn, pan ddeuai llawer o gannoedd ynghyd, ac y byddai'n amser o feddwi ac ymladd. Diflannodd yr ŵyl mor llwyr y pryd hwnnw fel na welwyd byth namyn rhithyn gwelw o honi. Ychwanegwyd oddeutu 130 at