Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/322

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iedig mewnol fe lechai ei fam hefyd, ac a ymledai allan oddiyno drwy ei holl natur ef. Yr oedd ei gynysgaeth yn un fawr, ac eiddigeddodd ei dad drosto mewn awydd am ei ymgysegriad llwyr i waith teyrnas nefoedd. Elai ei fasnach âg ef lawer oddicartref; ond byddai'n ffyddlon yn y moddion pan fyddai gartref. Ymhyf- rydai gyda'i ddosbarth o bobl mewn oed. Yr ydoedd yn dueddol wrth gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi i esbonio'r rhannau a ddarllennid. Gwnelid hynny mewn dull rhydd a rhwydd, heb arwyddo dwys-fyfyrdod uwch eu pen, ac heb gipio'r meddwl i fyny yn deg bob amser. Ar y ffurf o deimlad yr ymagorodd ei grefyddolder ef. Gyda dawn ei dad: llais baritôn melodaidd, a hyawdledd naturiol a swynol, ac ar brydiau hyrddiau anisgwyliadwy o deimlad; eto ni nodweddid ef, megys ei dad, gan ffrwyth myfyrdod dwfn yn y gair. Nid myfyrdod yn cynneu a welid ynddo ef, ond teimlad yn ysgubo ymlaen. Cymerai rhyw ran yn arweiniad y gân, ond nid amaethodd ganiadaeth fel celfyddyd. Canu gyda'i lygaid ynghauad, ebe Mr. O. J. Hughes, gan ogwyddo'r pen at yr ysgwydd dde, a chodi peth ar flaenau ei draed. Nid amaethodd mo'i feddwl ar unrhyw linellau neilltuol, ymhellach na thrwy ymroi i'w fasnach. Danghosai graffter sylw ym mhob trafodaeth fasnachol, a phroffesai grêd, nid mewn dysg, ond mewn athrylith naturiol, p'run bynnag ai gyda masnach ynte crefydd y byddid yn ymwneud. Rhedodd grym ei feddwl a'i ynni a'i ymadferthoedd i'w fasnach yn bennaf. Ni rwystrodd mo hynny fawr fwyniant iddo yng ngwasanaeth cyhoeddus crefydd, na mawr fwyniant i lawer eraill yn y rhan a gymerai ef ei hun yn y gwasanaeth hwnnw. Eithr yma yn y Baladeulyn, ac yn Nhalsarn cyn hynny, y gwelwyd y llewyrch mwyaf arno yn ei gysylltiadau crefyddol. Yn ystod maith gystudd ei flynyddoedd olaf, fe'i blinid ef yn fawr ar brydiau gan y meddwl ddarfod iddo droi ymaith oddiwrth alwad amlwg i'r weinidogaeth.

Elias Parry a darawyd yn wael wrth fyned ar ei liniau yn gyhoeddus, fel na ynganodd air. E fu dan gystudd trwm am dridiau, a bu farw Ebrill 26, 1875. Mab i Elias Parry y gof, Caer- narvon, a nai i John Parry Caer. Un o blant 1859, gyda'r dinc ynddo hyd y diwedd. Y pennill a roddwyd allan ganddo yn y cyfarfod gweddi olaf hwnnw ydoedd, "Mae dydd y farn yn dod ar frys." Cymydog cymwynasgar, cyfaill didwyll, blaenor gweithgar.