Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/323

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Huna'n dawel, frawd Elias,
Ym mhriddellau'r ddaear las,
Nes daw galwad oddiuchod;
Yn ddibechod deui i maes
I fwynhau tragwyddol deyrnas,
Baratowyd gan y Tad,
I garedigion y Priodfab
Gael gwledda ar ei gariad rhad. (0.J.H.)

Yn 1876 y dewiswyd E. Davies yn flaenor, ac ymddiriedwyd iddo hefyd y swydd o drysorydd yr eglwys.

Yn 1879 y bu farw John Reade, yn flaenor yma er 1864, a chyn hynny yn Rhyd-ddu er 1848. Sais o genedl, a ddaeth yn 17 oed. i wasanaeth Vodry Plas Vodry yn Nantgwynant. Tra mewn gwasanaeth yno y daeth at grefydd gyntaf, a hynny gyda'r Methodistiaid, rywbryd cyn fod gwres diwygiad Beddgelert wedi oeri, fel y tybia Mr. O. J. Hughes. Dodwyd delw ac argraff yr hen Fethodistiaid yn llwyr ar John Reade. Heb fod o syniadau eang, yr ydoedd yn ffyddlon gyda'r achos ac yn fanwl ei rodiad. Efe a arweiniai yn y cyfarfodydd eglwysig. Cymhellwyd yr arweiniad arno o barch i'w oedran, a chymerai yntau'r awenau i'w ddwylaw yn ddibetrusder. Rhydd Mr. O. J. Hughes ddwy engraifft fechan o'i ddull diniwed. Methu ganddo weithiau a tharo'r hoel ar ei phen, ac yn lle hynny taro o'i deutu drachefn a thrachefn. Rhoes ar ddeall un tro mewn seiat fod un o'r blaenoriaid wedi bod yn y Cyfarfod Misol, ac am hynny na wnae ef ond tewi y tro hwnnw, a rhoi lle i'r adroddiad o'r Cyfarfod Misol. Yn lle gwneud fel yr oedd yn dweyd, pa ddelw bynnag, myned ymlaen yr oedd John Reade i siarad, ac eto'n tra mynychu ei benderfyniad i dewi. Fe breswyliai yn yr ardal ar y pryd hen bererin gonest, dirodres, duwiol, sef William Ifan, o ardal Nebo. Methu gan yr hen bererin hwnnw a dal yn hwy, a thorrodd allan, "Wel, taw dithau ynte, tewi ydi'r gore iti!" A thawodd John Reade heb yngan gair yn ychwaneg. Dro arall, wrth godi ohono i arwain, fel arfer, fe ddisgynnodd ei lygaid ar fachgen ieuanc o Sais, ond yn medru Cymraeg, ac wedi dod i'r seiat y noswaith honno am y tro cyntaf. Gloewodd llygaid yr hen John Reade. "Yr ydw i'n gweld," ebe fe, "fod William Darby wedi dod ato ni heno. Be sy gin ti i ddeud, William ?" Cododd William ar ei draed ynghanol y capel. "Mi meddwl," ebe fe, "mai dyma y lle gore yn y byd i mi ddod." "O, wyti hynny, William!" ebe John Reade. A chyd-darawiad y ddwy acen Seisnig a asiodd bawb ynghyd mewn eithaf llonder.