Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/326

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HYFRYDLE.[1]

HYFRYDLE oedd y drydedd gangen o eglwys Talsarn. Yr oedd capel Talsarn wedi myned yn fychan i'r gynulleidfa, ac yr oedd golwg am gynnydd yng nghymdogaeth y Creigiau mawr, a thai yn cael eu hadeiladu yno. Barnai eglwys Talsarn ei hunan mai adeiladu capel yma oedd y goreu.

Tachwedd 4, 1866, y sefydlwyd eglwys yma. Y Parch. William Hughes a flaenorai gyda'r gwaith, megys mai efe oedd y prif ysgogydd gyda mudiadau crefyddol ac addysgol yn yr ardal yn gyffredinol. Cynorthwyid ef yn hynny gan Owen Rogers, Thomas Jones y crydd (Tŷ capel), a William Griffith Penycae (Coetmor). Ymadawodd 60 o aelodau o Dalsarn ar sefydliad yr eglwys yma. Rhoes y fam-eglwys £300 i'r eglwys hon ar yr achlysur. Agorwyd y capel yn ffurfiol ar y Nadolig, pryd y gwasanaethwyd gan David Jones Treborth, John Pritchard Amlwch, William Morris Rhuddlan.

Sicrhawyd y brydles ar y tir am 60 mlynedd o 1866, am £3 12s. Buwyd yn adeiladu yn ystod 1865-6. Yr holl draul, gan gynnwys y tŷ capel, £1520. Nid oedd llofft ar y capel ar y cyntaf, a chwynid am adsain ynddo. Joseph Thomas, mewn cyfarfod pregethu yma, a gwynai nad allai gael y gair olaf ganddo! Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1866, 81. Nifer y plant, 51. Athrawon yr ysgol Sul, 21; ysgolheigion, 120. Cyfrifid y gwrandawyr yn 250. Y ddyled ar ddiwedd y flwyddyn, £1100. Gosodid 200 o eisteddleoedd, a chyfrifid fod y capel yn dal 410. Naw ceiniog oedd cyfartaledd pris pob eisteddle. Fe welir fod yr eglwys erbyn diwedd y flwyddyn 1866, ei hunan wedi talu £120, yn ychwanegol at y £300 a dderbyniwyd yn rhodd gan y fam-eglwys.

Symudodd y Parch. W. Hughes yma o eglwys Talsarn, ond ni ddaeth yr un o flaenoriaid y fam-eglwys yma ar y cychwyn. Yn niwedd 1866, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Owen Rogers, Thomas. Jones Tŷ capel, William Griffith Coetmor. Y cyntaf yn flaenor yr allanolion, yr ail yn flaenor y gân, yr olaf yn flaenor y mewnolion.

Trefnwyd Hyfrydle yn daith â Bethel yn 1867.

  1. Ysgrif Owen Rogers, yn dwyn yr hanes i lawr i 1883. Cofiant William Hughes, gan Hugh Menander Jones, 1881. Nodiad ar Owen Rogers gan Mr. William Williams. Nodiadau gan Mr. G. H. Roberts Tŷ capel.