Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plant. Gwneir mwy o ddefnydd o gardiau yma, gyda'r dosbarthiadau ieuengaf, nag yn yr un ysgol arall yn y dosbarth. Nodir meusydd i'r ysgol i'w dysgu allan, a phrofir y gwaith yn hyn gan swyddog penodedig. Ystyriem hyn yn gam yn y blaen. Arferir cyfnewid athrawon y dosbarthiadau oll yn flynyddol. Dichon fod i hyn ei fantais a'i anfantais."

Gellir cael rhyw syniad pellach am raddau cynnydd a gweithgarwch yr eglwys drwy'r ffigyrau yma: Rhif yr eglwys yn 1885, 207; dyled, £983. Yn 1890, rhif, 155; dyled £965. Yn 1895, rhif, 158; dyled, £815. Yn 1900, rhif, 199; dyled, £526.